Llacio rheolau cynllunio er mwyn adeiladu gorsafoedd niwclear
Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu llacio rheolau cynllunio er mwyn gwneud hi'n haws i godi gorsafoedd niwclear.
Gallai'r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Keir Starmer arwain at adeiladu atomfeydd newydd ar safleoedd fel Wylfa ar Ynys Môn ac, o bosib, Trawsfynydd.
Mae'r llywodraeth yn gobeithio y bydd nifer o atomfeydd bychain (SMRs) yn cael eu hadeiladu ledled y wlad yn sgil y penderfyniad i newid y drefn cynllunio.
Maen nhw'n dweud y bydd "rheolau hen ffasiwn" oedd yn atal datblygiadau o'r fath yn cael eu diddymu, a bydd llai o bwyslais yn cael ei roi ar wrthwynebiad lleol.
Mae Wylfa wedi ei chlustnodi ers tro fel safle posib ar gyfer atomfa fawr newydd. Ond rhoddodd cwmni Hitachi y gorau i'w cynlluniau nhw ar y safle yn 2019 oherwydd pryderon am gostau cynyddol.
Daeth hi'n amlwg yn ddiweddarach na fyddai'r cynlluniau hynny wedi cael caniatâd cynllunio beth bynnag oherwydd pryderon amgylcheddol.
Y llynedd cyhoeddwyd na fyddai Trawsfynydd ar restr o lefydd posib ar gyfer adeiladu atomfeydd bychain am fod y safle'n cael ei ystyried yn rhy fach.
Ond mae'r llywodraeth yn dweud fod y rhestr yna bellach wedi ei ddiddymu, ac y byddan nhw'n ystyried mwy o safleoedd.
Dywedodd Keir Starmer: "Dydi'r wlad ddim wedi adeiladu gorsaf niwclear ers degawdau. Rydan ni wedi cael ein gadael ar ôl.
"Mae sicrwydd ein cyflenwad ynni wedi bod yn wystl i Putin am rhy hir, gyda phrisiau'n codi yn ôl ei fympwy.
"Rydw i am roi diwedd ar hynny - rydw i am newid y rheolau i gefnogi adeiladwyr yn y wlad yma."
Dywedodd ei fod am ddweud 'na' wrth wrthwynebwyr niwclear, oedd, meddai, wedi "tagu ein gobeithion am ynni rhatach, twf, a swyddi am yn llawer rhy hir."
Ond dywedodd Doug Parr o fudiad Greenpeace fod Llywodraeth y DU "wedi llyncu sbin y diwydiant niwclear yn ddi-gwestiwn."
Cyhuddodd Dr Parr y llywodraeth o anwybyddu'r cwestiwn o beth i'w wneud gyda gwastraff niwclear, a'r ffaith fod prosiectau niwclear wastad yn costio llawer mwy na'r amcangyfrif gwreiddiol.