Cwest: Dau ddyn ifanc o Gymru a merch wedi marw ar ôl i gar daro coeden
Mae cwest wedi clywed bod dau ddyn ifanc o Wrecsam ac un ddynes ifanc wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ôl i’r gyrrwr golli rheolaeth ar ei gar ar bont a tharo coeden.
Bu farw Dafydd Hûw Craven-Jones, 18, Morgan Jones, 17, a Sophie Bates, 17 oed yn y gwrthdrawiad y llynedd.
Goroesodd Brooke Varley, oedd hefyd yn 17 ar y pryd, y ddamwain.
Roedd Dafydd Hûw Craven-Jones wedi colli rheolaeth ar ei Ford Ka ar bont yn Penkridge, Sir Stafford, am 23.47 ar 25 Mai y llynedd.
Roedd y gyrrwr, oedd wedi pasio ei brawf ddiwedd Tachwedd 2023, wedi recordio fideo ohono’i hun wrth iddo fynd i nôl ei dri ffrind o barti mewn tŷ.
Yn y fideo roedd yn dweud ei fod yn ofni ei fod wedi cael ei ddal yn goryrru 90mya ar ffordd 70mya.
Roedd Dafydd wedi teithio o’i gartref ym mhentref Tan-y-fron, Wrecsam i Penkridge i nôl Morgan Jones o Goedpoeth, o'r parti gan ei fod yn teimlo’n sâl.
Nid oedd Sophie, o Stafford, na Brooke, o Gasnewydd yn Sir Amwythig, yn gwisgo gwregysau diogelwch adeg y gwrthdrawiad ar y ffordd 60mya.
Roedd Morgan Jones yn gwisgo gwregys dros ei ysgwydd yn unig ac yn eistedd ar y gwregys glin yn sedd flaen y teithiwr.
Roedd fideos a gafodd ei recordio gan Sophie yn ei dangos yn eistedd yn y sedd ganol yng nghefn y car.
Clywodd cwest bod Dafydd, a ddioddefodd nifer o anafiadau, a Morgan, a gafodd anaf difrifol i’w ben, wedi marw yn y fan a’r lle toc wedi hanner nos ar 26 Mai.
Bu farw Sophie yn Ysbyty’r Frenhines Elizabeth ar 28 Mai ar ôl dioddef anaf trawmatig i’w hymennydd.
Er ei bod wedi’i hanafu’n ddifrifol, goroesodd Brooke y ddamwain a chlywodd y cwest ei bod yn “difaru” na roddodd ei gwregys diogelwch ymlaen.
Roedd yn dywyll ac ni allai ddod o hyd iddo, meddai. Roedd hi hefyd wedi teimlo “ofn” bod Dafydd yn gyrru’n rhy gyflym ac wedi gofyn iddo arafu.
Dywedodd mewn datganiad ei bod yn teimlo fel bod ar “rollercoaster”.
Wrth roi teyrnged i’w ffrindiau dywedodd Brooke ei bod “mor ypset i fod wedi colli pobol mor anhygoel o fy mywyd”.
Dywedodd: “Sophie oedd y person mwyaf caredig i fyw ei bywyd i’r eithaf. Hi yw fy ysbrydoliaeth i wella a gwneud popeth na chafodd gyfle i'w wneud. Bydd hi yn fy nghalon am byth.
“Roedd Morgan yn un o’r bobol fwyaf doniol oeddwn i’n ei nabod. Roedd bob amser yn barchus, yn garedig ac yn addfwyn. Roedd bob amser yn edrych ar fy ôl i.
“Roedd gan Daf enaid caredig ac roedd yn caru ei ffrindiau.”
‘Perygl’
Mewn datganiad a ddarllenwyd yn y cwest, dywedodd mam Dafydd, Paula Craven-Jones, ei bod wedi bod yn y car gyda’i mab ar sawl achlysur ers iddo basio ei brawf ac nad oedd ganddi unrhyw bryderon am ei allu i yrru.
Roedd ei gar wedi’i yswirio’n gywir ac roedd ganddo MOT llawn, a doedd dim diffygion gyda’r cerbyd, meddai’r Rhingyll Richard Moors o Heddlu Sir Stafford.
Doedd gan Dafydd ddim diod na chyffuriau yn ei system a does dim tystiolaeth ei fod yn defnyddio ei ffôn adeg y gwrthdrawiad, ychwanegodd.
Clywodd y cwest fod tair damwain ddifrifol wedi bod ar yr un ffordd ers 2017, gyda damwain angheuol arall wedi digwydd ym mis Ionawr 2024.
Wrth gofnodi eu marwolaethau o ganlyniad i wrthdrawiad ar y ffordd, dywedodd y crwner cynorthwyol Kelly Dixon bod o leiaf un teithiwr wedi ei daflu ymlaen i sedd y gyrrwr o gefn y car, gan gyfrannu at anafiadau Dafydd.
“Rwy’n ymwybodol bod adroddiadau perygl wedi’u cyflwyno i Briffyrdd Sirol Sir Stafford mewn perthynas â’r gwrthdrawiad hwn a gwrthdrawiad angheuol arall ym mis Ionawr 2024," meddai.
“Mae ystyriaeth wedi ei roi i wella’r arwyddion a’r marciau ffordd ond ni chymerwyd unrhyw gamau eto.
“Byddaf yn cyhoeddi adroddiad atal marwolaethau yn y dyfodol i Briffyrdd Sirol Sir Stafford mewn perthynas â’m pryderon.”