Aberystwyth yn teithio i'r Fflint yn y Cymru Premier JD

Mae’n benwythnos hollbwysig yn nhymor y Cymru Premier JD ac yn y ras am y bencampwriaeth wrth i’r ddau uchaf gyfarfod mewn gêm dyngedfennol yn Neuadd y Parc.
Mae Pen-y-bont wedi methu ag ennill dim un o’u dwy gêm ers yr hollt ac felly mae’r Seintiau Newydd wedi agor bwlch o driphwynt ar y brig ac hynny gyda gêm wrth gefn.
Felly pe bai’r pencampwyr presennol yn cipio’r triphwynt yn fyw ar Sgorio brynhawn Sadwrn yna byddai gan Ben-y-bont fynydd i’w ddringo os am geisio disodli cewri Croesoswallt.
Yn y Chwech Isaf mae Aberystwyth wedi rhoi llygedyn i obaith i’w hunain drwy guro Llansawel y penwythnos diwethaf, a bellach dim ond pum pwynt sy’n gwahanu’r Gwyrdd a’r Duon a diogelwch y 10fed safle.
Chwech Isaf
Y Fflint (9fed) v Aberystwyth (12fed) | Nos Wener – 19:45
Mae gobeithion Aberystwyth o osgoi’r cwymp wedi codi yn dilyn eu buddugoliaeth oddi cartref yn Llansawel y penwythnos diwethaf, sy’n golygu mai dim ond pum pwynt sy’n gwahanu’r Gwyrdd a’r Duon a diogelwch y 10fed safle erbyn hyn.
Mae Aberystwyth a’r Drenewydd wedi bod yn aelodau di-dor o Uwch Gynghrair Cymru ers 1992, ond mae’r ddau glwb o’r canolbarth mewn perygl o syrthio i’r ail haen eleni.
Dyw’r Fflint ond diphwynt uwchben safleoedd y cwymp ac felly mae nhw hefyd mewn safle pryderus gyda wyth gêm ar ôl i’w chwarae.
Mae’r tîm cartref wedi ennill pob un o 10 gêm gynghrair ddiwethaf Y Fflint, a bydd Lee Fowler yn gobeithio y bydd y record honno yn parhau nos Wener.
Mae’r Fflint mewn brwydr i osgoi’r cwymp gyda thri o glybiau eraill, ond dyw’r Sidanwyr heb golli yn eu chwe gêm yn erbyn y clybiau rheiny yn rhan gynta’r tymor (curo Aberystwyth a’r Drenewydd ddwywaith a cipio 4pt yn erbyn Llansawel).
Enillodd Y Fflint o 2-0 yng Nghoedlan y Parc ym mis Medi diolch i ddwy gôl gan Elliott Reeves, cyn ennill o 3-0 yng Nghae-y-Castell ym mis Rhagfyr gyda Florian Yonsian yn taro hatric i’r Sidanwyr y diwrnod hwnnw.
Dyw Aberystwyth heb ennill oddi cartref yn erbyn Y Fflint ers bron i 28 o flynyddoedd (Mai 1997).
Record gynghrair diweddar:
Y Fflint: ͏❌✅❌✅❌
Aberystwyth: ͏➖❌❌❌✅
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.