Newyddion S4C

Ymgyrch i achub Seren y ci o'r môr 'fel rhywbeth allan o ffilm'

Ymgyrch i achub Seren y ci o'r môr 'fel rhywbeth allan o ffilm'

Mae dynes a oedd yn "ofni'r gwaethaf" pan redodd ei chi i'r môr wedi disgrifio'r ymgyrch i'w hachub "fel rhywbeth allan o ffilm".

Daeth criw bad achub o hyd i Seren, golden retriever tair oed, 300 metr o'r lan ar Draeth Drenewydd yn Notais ym Mhorthcawl ddydd Sadwrn.

Yn ôl ei pherchnogion Andrea Phillips a’i phartner Richard, roedd Seren wedi'i dychryn gan sŵn bŵt car yn cau ac wedi rhedeg i gyfeiriad y môr.

A hwythau wedi mabwysiadu Seren bum wythnos ynghynt, roedden nhw'n "ofni’r gwaethaf" wrth iddi nofio i’r môr a diflannu o’r golwg.

Ond dywedodd Ms Phillips fod gweld criw'r bad achub yn cerdded allan o'r dŵr yn cario ei chi i ddiogelwch fel rhywbeth o ffilm.

Dywedodd Ms Phillips: "Rwyf wedi achub llawer o gŵn yn fy amser, ond Seren yn bendant yw’r un mwyaf nerfus.

"Roedd hi newydd ddechrau arfer mynd am dro ar y traeth; ddydd Sadwrn roedden ni'n bwriadu mynd â hi allan, ac wedi ei rhoi'n ofalus yn bŵt y car.

"Ond wrth i ni glicio’r botwm i gau bŵt y car, rydyn ni’n meddwl bod y sŵn wedi ei dychryn.

"Fe neidiodd allan ac fe redodd yn syth ar draws y twyni ac i lawr i’r traeth."

Image
Andrea a'i chi Seren
Roedd Andrea a'i gŵr Richard wedi mabwysiadu Seren bum wythnos ynghynt

Ceisiodd cerddwr ci arall helpu i gael gafael ar Seren, ond fe redodd i'r môr.

Dywedodd y cerddwr ci ar y traeth wrth Ms Phillips i ffonio Gwylwyr y Glannau.

"Roedd y person ar y ffôn yn wych am dawelu fy meddwl, ond roeddwn i’n colli ffydd gan nad oedden ni’n gallu gweld Seren bellach," meddai Ms Phillips.

"Roedd hi wedi nofio mor bell allan ac roeddwn i’n ofni’r gwaethaf."

'Troi hunllef yn freuddwyd'

Gofynnodd Gwylwyr y Glannau i griw bad achub Porthcawl fynd i'w helpu.

Daeth y criw o hyd i Seren tua 300m o'r lan ger Trwyn y Drenewydd yn syth, gan ei bod yn cael ei chario ymhellach allan i'r môr gan y llanw.

Ychwanegodd Ms Phillips: "Ni allaf ddiolch digon i griw gwirfoddol yr RNLI am achub Seren. Fe wnaethon nhw droi hunllef yn freuddwyd.

"Roedd fel rhywbeth allan o ffilm gweld yr aelod o’r criw yn eu gwisg yn cario Seren o’r bad achub drwy’r dŵr.

"Hoffwn hefyd ddiolch i’r cerddwr ci arall, Josh, am ei holl gymorth a’i syniad i wneud yr alwad 999 i Wylwyr y Glannau."

Dywedodd Chris Missen, llyw RNLI Porthcawl: "Diolch byth fe welsom Seren cyn gynted ag y daethom o amgylch Trwyn y Drenewydd, ac fe lwyddon ni i’w chodi i fwrdd y bad achub. Roedd hi wedi'i  hysgwyd ychydig, ond nid oedd wedi'i hanafu."

Ychwanegodd: "Gwnaeth Andrea y peth iawn trwy ffonio 999 a gofyn am Wylwyr y Glannau.

"Roedden ni['n falch iawn o allu achub Seren a’i dychwelyd i Andrea a’i theulu - diweddglo twymgalon i'n hachubiad cyntaf o'r flwyddyn."

Mae Mr Missen yn cynghori pobl i "beidio byth â mynd i mewn i’r dŵr ar ôl eich ci" oherwydd rhesymau diogelwch.

Yn hytrach dylai perchnogion cŵn ffonio 999 neu 112 a gofyn am Wylwyr y Glannau.

 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.