Cyhuddo bachgen o lofruddio bachgen 15 oed yn Sheffield
Mae bachgen wedi ei gyhuddo o lofruddio bachgen 15 oed mewn ysgol yn Sheffield.
Cafodd Harvey Willgoose ei drywanu yn Ysgol Uwchradd Gatholig All Saints ar Heol Granville ddydd Llun a bu farw yn fuan wedyn.
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud eu bod wedi gofyn i Heddlu De Swydd Efrog gyhuddo'r bachgen.
Cafodd y bachgen ei arestio ddydd Llun. Mae wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth, o achosi ffrwgwd a bod ag arf â llafn yn ei feddiant.
Dyw'r bachgen ddim yn gallu cael ei enwi o achos ei oedran.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ieuenctid Sheffield yn ddiweddarach.
Llun: Harvey Willgoose