Dros hanner poblogaeth Cymru wedi gwylio pennod olaf Gavin and Stacey
Mae dros hanner o boblogaeth Cymru wedi gwylio pennod olaf Gavin and Stacey, meddai'r BBC.
17 mlynedd ers y bennod gyntaf fe ddaeth y gyfres boblogaidd i ben gyda'r bennod olaf yn cael ei darlledu ar ddydd Nadolig.
Dyna oedd y tro olaf i Nessa, Smithy, Gavin, Stacey, Bryn a llu o gymeriadau poblogaidd eraill gael eu gweld ar y sgrin fach.
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod 1.8 miliwn o bobl yng Nghymru, sef 59% o'r boblogaeth wedi gwylio'r bennod olaf, meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tim Davey.
Mewn digwyddiad yng Nghaerdydd nos Fawrth dywedodd "nad oes dim byd yn dangos gallu’r BBC i ddod â phobl at ei gilydd cymaint â llwyddiant rhyfeddol Gavin and Stacey."
'Cysylltiad cryf'
Ychwanegodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru fod y ffigyrau yn adlewyrchu cysylltiad y Cymry gyda'r gyfres.
"Rwy’n hynod falch o weld llwyddiant Gavin and Stacey a’n rhaglen ddogfen ar draws y DU, gyda’r niferoedd mwyaf erioed yma yng Nghymru.
"Mae’n rhaglen yr ydym ni fel cenedl yn teimlo cysylltiad mor gryf â hi, ac mae’r ffigyrau hyn yn sicr yn adlewyrchu hynny.”
Mae'r ffigyrau yn cynnwys y rhaglen ar noson Nadolig a sesiynau gwylio ar BBC iPlayer ers hynny.
Y bennod olaf yw'r rhaglen deledu sydd wedi cael ei wylio fwyaf yng Nghymru ers 2002, yn ôl y BBC.
Ychwanegodd y gorfforaeth bod 2.8 miliwn o bobl ar draws y DU wedi gwylio'r bennod fwy nag unwaith.
Ar ddiwrnod Nadolig cafodd y rhaglen awr a hanner ei gwylio gan 12.3m o bobl ar y BBC, y gynulleidfa fwyaf ar ddydd Nadolig ers 2008.