Newyddion S4C

Cyhuddo'r Ceidwadwyr o roi'r gorau i fod yn wrthblaid cyn pleidlais y gyllideb

04/02/2025
Darren Millar

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr Cymreig o roi’r gorau i fod yn wrthblaid, wedi i ddau aelod blaenllaw o'r blaid fod yn absennol o'r Senedd ar ddiwrnod pleidlais aelodau ar gyllideb ddrafft y llywodraeth.

Mae gann y llywodraeth Lafur union hanner y seddi yn Senedd Cymru ac felly fe fyddai angen i'r gwrthbleidiau uno er mwyn sicrhau nad yw'r gyllideb ddrafft yn cael ei phasio.

Wrth siarad yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mawrth, beirniadodd Rhun ap Iorwerth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar, am beidio â bod yn y Senedd ar y diwrnod yr oedd aelodau i fod i bleidleisio ar y gyllideb ddrafft Cymru.

Mae Mr Millar a’i gyd-Aelod Seneddol Ceidwadol Russell George yn mynychu brecwast gweddi cenedlaethol yn Washington DC, lle mae’r Arlywydd Donald Trump i fod i siarad.

Dywedodd Mr ap Iorwerth: “Mae’n rhyfeddol na allai arweinydd y grŵp Ceidwadol fod yma heddiw o bob dydd, gan ddewis brecwast yn America yn lle hynny.

“Maen nhw’n amlwg wedi rhoi’r gorau hyd yn oed i fod yn wrthblaid.”

Dywedodd llefarydd ar ran Reform - sydd heb unrhyw aelodau yn y Senedd: “Heddiw, cafodd gwrthblaid y Senedd gyfle i sefyll yn gadarn yn erbyn cyllideb ddrafft drychinebus Mark Drakeford. 

"Yn hytrach, mae arweinydd Torïaidd yr wrthblaid yn Washington, D.C. yn profi unwaith eto nad oes ots gan y Ceidwadwyr am Gymru. 

Gwrthwynebwyr mewn enw yn unig ydynt. Mae Cymru yn haeddu gwell."

Mae'r bleidlais ar y gyllideb ddrafft ddydd Mawrth yn symbolaidd i raddau helaeth.

Serch hynny, mae disgwyl i’r bleidlais fod yn dynn i lywodraeth Lafur Cymru a byddai’n embaras pe bai’n cael ei cholli.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.