'Tua 10' o bobl wedi eu saethu'n farw mewn canolfan addysg yn Sweden
Mae 'tua 10' o bobl wedi marw ar ôl achos o saethu mewn canolfan addysg yn Sweden meddai heddlu'r wlad.
Dywedodd yr heddlu fod "tua 10 person" wedi marw, ond nad oedden nhw'n gallu bod yn fwy manwl na hynny.
Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod y person yr oeddent yn credu oedd yn gyfrifol am y saethu ymysg y meirw.
Wrth roi mwy o fanylion am y troseddwr, dywedodd yr heddlu nad oedd yn hysbys iddyn nhw cyn y saethu.
Nid oedd gan y dyn unrhyw gysylltiad â gang, ac nid yw swyddogion yn credu bod cymhelliad terfysgol i'r ymosodiad.
"Rydyn ni'n meddwl ei fod yn gweithredu ar ben ei hun," meddai Roberto Eid Forest, pennaeth heddlu lleol Örebro - gan ychwanegu bod yr ymchwiliad yn y camau cynnar iawn.
"Mae hwn yn ddigwyddiad hynod o drasig," meddai.
Mae prif weinidog Sweden, Ulf Kristersson, wedi disgrifio'r diwrnod fel un hynod o boenus i'r wlad.
Digwyddodd y saethu am 13:00 amser lleol yn ninas Örebro, sydd 125 milltir i'r gorllewin o Stockholm ddydd Mawrth.
Yn gynharach ddydd Mawrth fe ddywedodd yr heddlu eu bod yn ymchwilio i droseddau oedd yn cynnwys ymgais i lofruddio, llosgi bwriadol a dwyn arf gan ddefnyddio trais.
Roedd y digwyddiad mewn canolfan Komvux - sef canolfan addysg i oedolion oedd heb gwblhau eu haddysg pan yn iau.
Yn wreiddiol roedd neges gan yr heddlu'n dweud bod pedwar o bobl wedi eu saethu ond cafodd y neges honno ei ddiweddaru'n fuan wedyn i ddweud fod pump o bobl wedi eu saethu.
Bellach mae'r nifer sydd wedi marw wedi dyblu.