Newyddion S4C

Carcharu dyn am ymosodiad ar heddwas mewn cell yng Nghaernarfon

04/02/2025
Gary Morgan

Mae dyn wedi ei garcharu am ddwy flynedd am guro swyddog yr heddlu yn anymwybodol mewn cell yng Nghaernarfon.

Cyfaddefodd Gary Wyn Morgan, 33, o Lon Cariadon, Bangor, iddo ymosod ar y Rhingyll Phillip Kennedy gan achosi gwir niwed corfforol.

Roedd angen nifer o bwythau y tu mewn i’w foch ar y Rhingyll Kennedy ar ôl yr hyn a alwodd y swyddog yn ymosodiad “heb unrhyw reswm”.

Cyfaddefodd Gary Wyn Morgan hefyd i ymosod ar ddyn arall a dau ymosodiad ar heddweision eraill.

Dywedodd yr erlynydd Elen Owen wrth Lys y Goron Caernarfon fod yr heddlu wedi cael eu galw wedi ymosodiad haf diwethaf mewn hostel ym Mangor. 

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach roedd Morgan wedi cael ei saethu gyda gwn Taser ar ôl gwrthsefyll cael ei arestio ac wedi poeri yng ngwyneb heddwas ym Mangor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.