Teyrngedau i fachgen 15 oed a gafodd ei drywanu mewn ysgol
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fachgen 15 oed a gafodd ei drywanu mewn ysgol yn Lloegr.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Uwchradd Gatholig All Saints ar Heol Granville, Sheffield am 12.17 ddydd Llun ar ôl adroddiadau o drywanu.
Mae bachgen, 15, wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac yn parhau yn y ddalfa meddai Heddlu De Swydd Efrog.
Mae’r bachgen a fu farw wedi ei enwi yn Harvey Willgoose yn lleol.
Dywedodd Heddlu De Swydd Efrog fod y bachgen "wedi dioddef anafiadau difrifol ac er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaeth ambiwlans, yn drist iawn bu farw ychydig yn ddiweddarach".
Mae teulu’r bachgen wedi rhoi teyrngedau iddo ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddweud bod eu “calon[nau] wedi torri.”
Mewn neges i’w 56,000 o ddilynwyr ar ei chyfrif TikTok, fe ranodd ei fam, Caroline cyfres o luniau o’r ddau gyda’i gilydd gan ddweud, “Ein Harvey, does ‘na ddim geiriau.”
“Fy Harvey, ni fydd bywyd byth yr un peth. Caru ti gymaint,” medd mewn neges arall.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd ei chwaer, Sophie: “Mae fy nghalon wedi torri i mewn i filiynau o ddarnau, dwi’n dy garu di gymaint Harvey.”
'Bachgen hyfryd'
Mae teyrngedau hefyd wedi eu gadael y tu allan i’r ysgol ac mae rhai o’i gyd-ddisgyblion wedi rhoi teyrngedau iddo yn ogystal.
Roedd un neges a gafodd ei adael y tu allan i’r ysgol yn dweud bod y llanc wedi "dod â llawenydd a chwerthin i bawb oedd yn ei adnabod".
Roedd ei “bersonoliaeth fyrlymus yn heintus”, ychwanegodd.
"Wna i byth anghofio'r holl eiliadau, yr holl chwerthin. Bydd cymaint yn gweld dy eisiau,” meddai.
Dywedodd un disgybl 17 oed wrth y BBC fod y dioddefwr yn "fachgen hyfryd".
“Roedd athrawon yn ei garu, roedd y disgyblion yn ei garu, roedd pawb yn ei garu,” meddai.
‘Tristwch mawr’
Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Lindsey Butterfield:
“Gyda thristwch mawr rwyf yn datgan bod bachgen yn ei arddegau wedi marw yn dilyn achos o drywanu mewn ysgol yn Sheffield yn gynharach heddiw.
“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu’r bachgen, ei ffrindiau, yr holl ysgol a’r gymuned,” ychwanegodd.
Fe gafodd y ffordd ger yr ysgol ei chau am gyfnod wedi’r ymosodiad ddydd Llun ac roedd yr heddlu wedi annog pobl i osgoi’r ardal.