
Lluniau: Tîm achub mynydd yn defnyddio rafft i achub defaid o lifogydd
Fe wnaeth tîm achub mynydd ddefnyddio rafft i achub defaid o lifogydd Afon Glaslyn ger Penrhyndeudraeth.
Wrth gyhoeddi'r lluniau dywedodd Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn bod y defaid wedi eu dal gan ddŵr a oedd wedi codi yn sydyn fis diwethaf.
Roedd yn dangos nad ar “y mynyddoedd yn unig” oedd angen eu cymorth, medden nhw.

“Mae ein gwirfoddolwyr yn ymroddedig i helpu eu cymuned leol pryd bynnag a lle bynnag y bo modd,” medden nhw.
“Defnyddiodd ein Tîm Dŵr arbenigol, gyda chymorth aelodau ychwanegol o’r tîm, i symud y defaid i dir uwch gan ddefnyddio rafft briodol mewn digwyddiad a oedd, yn y pen draw, yn swydd hir o bedair awr a hanner.”

Lluniau gan Dîm Achub Mynydd Aberglaslyn.