Newyddion S4C

Dod o hyd i gorff dyn oedd ar goll ynghanol dinas

04/02/2025
Frank Bayley

Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff dyn oedd ar goll ers pythefnos ynghanol Casnewydd.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff Frank Bayley, 69 “mewn dŵr” oddi ar Ffordd Corporation tua 17.10 ddydd Llun.

Roedd wedi bod ar goll ers dydd Mawrth, Ionawr 21.

Roedd Cymdeithas Achub Ardal Hafren (SARA) wedi eu helpu i adfer y corff, meddai'r heddlu.

“Roedd teulu yn bresennol ac maen nhw wedi adnabod y dyn yn ffurfiol,” meddai llefarydd ar ran Heddlu Gwent.

“Mae ein meddyliau gyda nhw ar yr adeg anodd hon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.