Newyddion S4C

Gobaith am ddyfodol Eisteddfod Y Felinheli ar ôl cael ei hatgyfodi

03/02/2025
Steddfod Felinheli

Mae gobaith am ddyfodol Eisteddfod Y Felinheli wedi iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf ers hanner canrif.

Ddydd Sadwrn, cafodd Eisteddfod Gadeiriol Y Felinheli ei chynnal am y tro cyntaf ers yr 1970au.

Roedd cystadlu brwd drwy’r dydd yn Neuadd Goffa’r Felinheli, o 11:30 hyd at wedi hanner nos.

Dywedodd Osian Owen, un o’r trefnwyr, ei bod yn “wych” cael yr Eisteddfod yn y pentref eto, yn enwedig a hithau’n bentref “lle mae ‘na gymaint o dalent gerddorol a chelfyddydol”.

Ychwanegodd ei fod wastad wedi meddwl ei fod o’n “reit od” nad oes Eisteddfod “mewn pentref mor brysur a mor Gymreigaidd”, ond ei fod yn teimlo’n freintiedig o gael bod yn rhan o’r trefnu.

Image
Eisteddfod y Felinheli tua 1971-72
Eisteddfod Y Felinheli yn yr 1970au.

Does gan y pwyllgor ddim dyddiad penodol o'r Eisteddfod gyntaf erioed, ond fe ddaethon nhw ar draws adroddiad papur newydd ym mhapur newydd Y Werin o 1891. 

Mae'r adroddiad yn y papur newydd yn dweud: "Y mae yn llawenydd gennym hysbysu fod rhagolygon Eisteddfod Gadeiriol y Felinheli yn hynod o addawol. 

"Yr ydym wedi codi pabell i gynnwys tua thair mil o bobl."

Image
Y Werin
Detholiad o'r Werin, 1891 yn trafod yr Eisteddfod.

Dywedodd Osian fod yr Eisteddfod eleni yn gyfuniad o’r elfennau traddodiadol o Eisteddfod, megis y cystadlaethau llenyddol a cherddorol, yn ogystal â chyflwyno ambell elfen wahanol.

Eu bwriad oedd gwneud yr Eisteddfod yn un “fwy cyfoes” drwy gyflwyno cystadlaethau fel “ysgrifennu cân am y pentref”. 

“Mae canu Cymraeg cyfoes yn rhan fawr o ddiwylliant y pentref efo aelodau o fandiau Achlysurol, Elis Derby, Papur Wal a Gwilym yn dod o’r pentref,” meddai.

Cystadleuaeth newydd arall a gynhaliwyd am y tro cyntaf eleni oedd Tlws y Dysgwyr.

Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i ddysgwyr ysgrifennu proffil ohonyn nhw eu hunain ar gyfer Goriad, y papur bro lleol, a BangorFelin360, y wefan fro leol.

Enillwyd y tlws gan Ewan Smith, Llandrillo-yn-Rhos.

Yn ôl Osian, mae llawer o ddysgwyr Cymraeg yn byw yn y Felinheli ac yn cyfarfod yn fisol dan faner ‘Give Welsh a Go’, sef partneriaeth rhwng Llofft, a Gŵyl y Felinheli, ac mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg mewn lleoliad anffurfiol, waeth ble maen nhw ar eu siwrne ieithyddol.

“Mae’r ‘Steddfod yn fwy na be sy’n digwydd ar y diwrnod yma – mae’n rhan o gyfrannu at ddiwylliant a natur ieithyddol y pentra’n ehangach”.

Image
Cadair Eisteddfod Y Felinheli 2025
Cadair Eisteddfod Gadeiriol Y Felinheli, 2025.

Roedd y gefnogaeth leol wedi bod yn gymorth mawr i’r pwyllgor wrth iddyn nhw fynd ati i ail-sefydlu’r ŵyl.

Cynhaliwyd ocsiwn addewidion yn Nhafarn y Fic, y dafarn leol, er mwyn codi arian at yr Eisteddfod gyda Tudur Owen a Karen Wynne yn llywio’r gwerthu.. “’da ni ‘di cal lot o hwyl yn ei wneud o i fod yn hollol onasd!”

“Mae ‘na heriau wrth gwrs” meddai wrth sôn am y gwaith trefnu, “’sgen rhywun ddim syniad faint o waith sy’n mynd i mewn i drefnu Eisteddfodau lleol… dwi’n meddwl bod pobl yn eu cymryd nhw’n ganiataol."

Mae yna lawer o waith ymarferol i’w wneud wrth sefydlu gŵyl o’r fath, gan gynnwys sefydlu eu hunain fel elusen ac agor cyfrif banc, ac wrth wneud hynny, daeth y criw ar draws hen gyfrif banc oedd yn bodoli dan enw’r Eisteddfod o’r 70au.

Roedd y Neuadd Goffa yn orlawn hyd at wedi hanner nos, gyda phlant ysgol gynradd yn cystadlu yn y bore, a’r plant hŷn ac oedolion yn hwyrach yn y prynhawn a’r nos.

“Aeth hi’n rhyfeddol o esmwyth a deud y gwir,” meddai Osian, “gan ei fod o’r tro cyntaf i’r pwyllgor wneud unrhyw beth fel hyn, doedd gynnon ni’m syniad faint o bobl oedd am droi fyny.. os oeddan ni am gael cystadleuwyr o gwbl!

“Ond mi oedd hi’n ofnadwy o brysur yma… mi oeddan ni bron a rhedeg allan o raglenni’r dydd ar un pwynt, mi oedd bob sedd mwy na lai ar un pwynt yn llawn. 

"Felly dwi’m yn meddwl y bysan ni wedi gallu gofyn i bethau fynd yn well a deud y gwir.” meddai.

Bu’n Eisteddfod lwyddiannus i brifardd yr Eisteddfod hefyd, sef Ifan Prys o Landwrog, a enillodd y gadair am ei gerdd gaeth ar y testun ‘llif’.

Image
Ifan Prys a'r beirniad, Rhys Iorwerth
Enillydd y Gadair, Ifan Prys, a beirniad y gystadleuaeth, Rhys Iorwerth. (Llun: Instagram Eisteddfod Y Felinheli)

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r pwyllgor, a’r pentref yn hynny o beth, yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i’r Eisteddfod yn y blynyddoedd nesaf wedi llwyddiant yr ŵyl eleni.

“Dwi ddim yn meddwl ein bod wedi mynd i’r ffasiwn ymdrech i wneud digwyddiad one-off!” meddai Osian.

“Mi fyddai’n sicrhau bod Eisteddfod Y Felinheli’ yn digwydd bob blwyddyn o hyn ymlaen a fydd ‘na ddim toriad mor hi a hanner canrif eto!”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.