Newyddion S4C

Bachgen 15 oed wedi ei drywanu i farwolaeth yn yr ysgol

Bachgen wedi'i drywanu i farwolaeth

Mae bachgen 15 oed wedi marw wedi iddo gael ei drywanu mewn ysgol yn Sheffield. 

Mae bachgen 15 oed arall yn cael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio, meddai Heddlu De Swydd Efrog. 

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn All Saints Catholic High School ar Ffordd Granville yn y ddinas ychydig wedi hanner dydd, meddai’r llu. 

Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Llun dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Lindsey Butterfield: “Gyda thristwch mawr rwyf yn datgan bod bachgen yn ei arddegau wedi marw yn dilyn achos o drywanu mewn ysgol yn Sheffield yn gynharach heddiw. 

“Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu’r bachgen, ei ffrindiau, yr holl ysgol a’r gymuned,” ychwanegodd. 

Mae teulu’r bachgen fu farw wedi cael gwybod. 

Dyma’r ail dro i’r ysgol cau o ganlyniad i ymddygiad treisgar yr wythnos hon. 

Yn ôl adroddiadau lleol, roedd prifathro ysgol All Saints Catholic High School, Sean Pender wedi cysylltu â rhieni ar 29 Ionawr gan ddweud roedd yn rhaid cau’r ysgol adeg hynny yn dilyn “ymddygiad bygythiol rhwng nifer fach o fyfyrwyr.” 

Dywedodd bod disgyblion wedi bygwth ymosod yn gorfforol ar ei gilydd. 

Fe gafodd y ffordd ger yr ysgol ei chau am gyfnod wedi’r ymosodiad ddydd Llun ac roedd yr heddlu wedi annog pobl i osgoi’r ardal. 

Mae ymchwiliadau’r heddlu yn parhau. 

Llun: Danny Lawson/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.