Cymeradwyo cynllun tai fforddiadwy er gwaethaf 'pryderon dros yr iaith'
Mae cais i adeiladu 16 o dai cymdeithasol mewn pentref ger Caernarfon wedi ei gymeradwyo er gwaethaf "pryderon dros yr iaith".
Mae cynllunwyr Cyngor Gwynedd wedi rhoi sêl bendith i gais i godi tai cymdeithasol yn Ninas o saith pleidlais i bedwar, gydag un yn ymatal.
Fe gafodd y cais ei gyflwyno gan Beech Developments NW Ltd, trwy'r asiant Sioned Edwards o Cadnant Planning.
Mae'r safle dros ffordd i garej a siop weithgareddau awyr agored ar yr A487, ac wedi cael ei ddefnyddio fel maes parcio anffurfiol yn ddiweddar.
Bydd y tai, ar ôl eu hadeiladu, yn dod o dan reolaeth landlord tai cymdeithasol wedi'u cofrestru gyda chwmni Adra.
Yn ôl Cyngor Cymuned Llanwnda, byddai'r datblygiad yn "symud nifer o bobol nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg i fyw yn un o'r cymunedau fwyaf Cymraeg".
Ond dywedodd Uned Iaith Gymraeg Cyngor Gwynedd y byddai’r cynlluniau yn cael "effaith bositif fechan" ar y Gymraeg yn yr ardal.
'Diystyru barn bobl leol'
Fe bleidleisiodd y Cynghorydd Gareth Tudor Jones yn erbyn y cais, gan fynegi pryderon am leoliad y datblygiad.
"Dw i’n derbyn bod isho tai i bobl yn Bethel, yng Nghaernarfon dros ffordd i [Ysgol] Syr Hugh [Owen] – ond nid yma’n Dinas," meddai.
"Maen nhw 'di hen gyrraedd y cwota efo stad newydd sbon drws nesa' yn Gwel y Foel. Mae’r sefyllfa yma’n digwydd yn rhy aml rwan.
"Mae’n handi iawn ffeindio darn o dir gwag – rown ni dai yna a hynny heb holi os ydi’r bobl leol yn dymuno cael stad o dai yno."
Ychwanegodd: "Y neges dw i’n deimlo 'da ni'n gael fan hyn ydi, ni yn y cyngor sir ag Adra sy’n gwybod be' sydd orau i chi bobl leol yn Llanwnda, ac mae'n rhaid i chi dderbyn hynny.
"Mae 'na ryw bulldozio unrhyw wrthwynebiad lleol a diystyru barn bobl leol."
Ond mae'r Cynghorydd Gareth Coj Parry yn croesawu'r cynlluniau.
"Ma' genna pobol hawl i fyw yn lle bynnag ydyn nhw. Oes, 'da ni isho tai, ond dim wrth drws cefn ni," meddai.
"‘Gewch chi fuildio fo yng Nghaernarfon’ – wel, be' sy'n wrong efo buildio fo yn Llanwnda? Nothing. So, genna pobl hawl i fyw lle bynnag ma' nhw.
"A’r iaith Gymraeg, fydd y plant bach ‘ma yn dysgu Cymraeg ag eith y pentref yn fwy Cymraeg wedyn."