Cyhoeddi toriadau Caerdydd 'wedi effeithio ar fy iechyd meddwl' medd cyn-weinidog addysg
Mae cyn-weinidog addysg yn Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y modd y cyhoeddwyd toriadau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi effeithio ar ei iechyd meddwl.
Cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd yr wythnos diwethaf y bydd yn cael gwared â 400 o swyddi llawn amser yn y sefydliad fel rhan o gynlluniau i arbed arian.
Mae disgwyl i brotestwyr ymgynnull y tu allan i'r Senedd ddydd Mawrth.
Dywedodd y cyn-weinidog, yr Athro Leighton Andrews, sy'n darlithio yn Ysgol Fusnes y brifysgol, bod ei swydd yn un o'r rheini oedd dan fygythiad.
"Rwy'n rhannu dicter dwfn fy nghydweithwyr," meddai.
"Fe gollais i lawer o gwsg yr wythnos diwethaf, ac mae fy iechyd meddwl wedi’i niweidio gan gyhoeddiadau’r Brifysgol a’r ffordd wnaethon nhw roi gwybod amdanyn nhw.
"Dydw i ddim ar fy mhen fy hun yn hynny o beth."
Ychwanegodd "nad yw'n hawdd canolbwyntio ar ddysgu ar hyn o bryd" ond nad oedd yn syniad da "pardduo" arweinyddiaeth y brifysgol.
"Mae pawb yn grac, ond dydw i ddim yn hoffi gwneud pethau'n bersonol fel ydw i wedi’u darllen o bryd i’w gilydd dros yr wythnos ddiwethaf, gyda beirniadaeth naill ai am arweinwyr prifysgol y gorffennol neu'r arweinwyr presennol," meddai.
"Rwy'n grac, mae pawb yn grac, ond gallwn fod yn sifil. Gadewch i ni wneud ein dadleuon ar eu telerau eu hunain, ac osgoi pardduo."
Protest
Mae disgwyl i nifer o bobl ymgynnull ar gyfer y rali dros ddyfodol addysg uwch yng Nghymru ddydd Mawrth wrth i wleidyddion drafod cyllideb Llywodraeth Cymru yn y Senedd.
Roedden nhw hefyd wedi cyhoeddi y bydd y brifysgol yn ystyried cael gwared â rhai cyrsiau, gan gynnwys nyrsio, yn ogystal ag uno pynciau eraill gyda’i gilydd, a hynny’n effeithio ar adran y Gymraeg.
Bydd aelodau undeb yr UCU yn protestio yn erbyn y cynlluniau toriadau ochr yn ochr â chorff myfyrwyr NUS Cymru, Unison, Undeb Addysg Genedlaethol a staff Prifysgol Caerdydd sydd ddim yn aelodau undeb.
Mae aelodau undeb y darlithwyr yn galw ar y llywodraeth i weithredu i atal toriadau i addysg uwch yng Nghymru.
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall y pryder difrifol y bydd cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd yn ei achosi i bobl sy'n cael eu heffeithio.
"Mae prifysgolion ledled y DU yn wynebu cyfnod ariannol heriol oherwydd ystod o ffactorau ac rydym yn disgwyl i bob sefydliad weithio gydag undebau llafur, staff a myfyrwyr ar unrhyw gynigion.
"Mae'r gweinidog yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n rhan o'u cynlluniau ar gyfer diwygio addysg uwch.
"Rydym wedi cynyddu'r cap ar ffioedd, gan ddarparu hyd at £21.9m mewn incwm ychwanegol i brifysgolion y flwyddyn nesaf.
"Yn 2024/25, rydym wedi darparu £10m yn ychwanegol i'r sector, gan ddod â chyfanswm y grant i dros £200m yn y flwyddyn ariannol bresennol."
Streicio
Mae’r UCU yn y broses o drafod streicio gyda’i haelodau ar hyn o bryd, a hynny wrth ddweud bod cyfrifon wrth gefn heb gyfyngiadau Prifysgol Caerdydd wedi cynyddu dros 50% i dros hanner biliwn o bunnoedd mewn blwyddyn.
Dywedodd undeb y darlithwyr wrth raglen Newyddion S4C eu bod yn galw ar y Brifysgol i ddefnyddio rhywfaint o'u harian wrth gefn i liniaru'r pwysau ariannol ar y sefydliad.
Yn ôl Prifysgol Caerdydd, nid yw arian wrth gefn heb gyfyngiadau yn cyfateb ag arian parod i'w wario, a bod "costau dysgu ac ymchwilio £31.2 miliwn yn ddrutach na'r arian gafodd ei gynhyrchu gan y gweithgareddau rheini”.
“Mae’r brifysgol yn wynebu diffyg strwythurol. Mae hynny’n golygu bod y refeniw ry’n ni’n ei dderbyn o weithgaredd dysgu ac ymchwil yn llai na’r arian mae’r gweithgareddau rheiny yn eu gynhyrchu a bydd ein cyfrifon yn nodi bod diffyg o £31.2 m i’r perwyl hwnnw yn y flwyddyn orffenodd ar 31 Gorffennaf 2024," medden nhw.