Newyddion S4C

£8m i gefnogi datblygiad cynllun ynni llanw ger arfordir Môn

04/02/2025
Prosiect ynni llanw Ynys Mon

Mae cynllun ynni llanw ger arfordir Môn wedi sicrhau £8m o fuddsoddiad newydd gan Lywodraeth Cymru.

Cynllun ynni llanw Morlais, sy’n eiddo i fenter gymdeithasol Menter Môn, ydi’r cynllun ynni llif llanw mwyaf yn Ewrop sydd wedi ei ganiatáu.

Mae'n gorchuddio ardal o 35 cilomedr sgwâr yn y môr ger Ynys Lawd.

Bydd y datblygiad yn weithredol o 2026 ymlaen, ac mae wedi derbyn cyfran ecwiti gwerth £8m gan Llywodraeth Cymru.

Mae disgwyl i’r safle gynhyrchu digon o egni ar gyfer hyd at 180,000 o aelwydydd yng Nghymru. 

Mi fydd buddsoddiad y Llywodraeth yn helpu ariannu cam penodol fel rhan o’r prosiect, sef Cydnerth, a fydd yn gweld y cysylltiad grid yn cael ei gryfhau ym Mharc Cybi, Caergybi, medden nhw. 

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, ei fod yn croesawu y buddsoddiad.

“Mae'r cyllid hwn yn cefnogi ein gweledigaeth i sicrhau bod Gogledd Cymru ar flaen y gad ym maes arloesi ynni llanw, gan greu cyfleoedd ar gyfer twf a chydweithio ar draws y rhanbarth," meddai.

Ychwanegodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais Cyfyngedig: “Drwy gefnogi prosiectau fel Morlais, rydym nid yn unig yn datgloi potensial ein hadnoddau naturiol ond hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer economi wydn, werdd yng Ngogledd Cymru."

Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad ddydd Mawrth, dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ei fod yn “gam gychwyn da mewn sawl ffordd".

"Bydd ein buddsoddiad yn cefnogi cynllun Morlais Menter Môn i gynyddu capasiti, a datblygu clwstwr diwydiannol ar gyfer ynni ac arloesedd llanw yn y Gogledd, gan ddarparu swyddi a thwf drwy ei dechnoleg arloesol ar yr un pryd," meddai.

“Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod gwerth yn cael ei gadw’n lleol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.