'Llond bol': Cyfarfod brys wedi i bobl ifanc ddifrodi eiddo yn Llandudno
Mae grwpiau o bobl ifanc wedi achosi difrod gwerth £16,000 mewn tref yng Nghonwy drwy dorri ffenestri, dechrau tân mewn ysbyty a phaentio graffiti ar waliau theatr, meddai cynghorwyr lleol.
Fe gafodd cyfarfod brys ei drefnu yn Llandudno ddydd Gwener gan AS Aberconwy, Janet Finch-Saunders, mewn ymgais i atal yr "anhrefn" y mae'n honni sy'n cael ei achosi gan blant a phobl ifanc yn oriau mân y bore.
Dywedodd Ms Finch-Saunders bod y grwpiau yn "gwneud bywyd yn anodd" i drigolion y dref.
"Rydym wedi cael tân yn cychwyn yn Ysbyty Llandudno," meddai.
"Fe wnaethon nhw gicio 17 o ffenestri ar lochesi'r promenâd, ac maen nhw wedi bod yn mynd i mewn i westai, yn dwyn cadeiriau o'r dderbynfa ac yn rhegi.
"Plant sydd allan o reolaeth ydyn nhw, ac maen nhw'n gwneud bywyd yn anodd i rai pobl."
Fe gafodd graffiti hefyd ei baentio ar waliau Venue Cymru, meddai’r Cynghorydd Nigel Smith, aelod cabinet Cyngor Sir Conwy dros yr economi.
'Rhaid gwneud rhywbeth'
Fe gafodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin, swyddogion heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol eu gwahodd i'r cyfarfod.
Dywedodd Ms Finch-Saunders ei bod wedi eu gwahodd oherwydd bod "pobl Llandudno wedi cael llond bol" o'r fandaliaeth.
"Oherwydd ei fod yn mynd i mewn i'r papurau newydd, nid yw'n dda i berchnogion gwestai, nid yw'n dda i bobl weld yr ymddygiad yma," meddai.
"Roedd y grŵp olaf o blant mor ifanc ag 11, 13, a 15, ond ar rai achlysuron, maen nhw wedi bod mor ifanc â saith neu wyth oed.
"Maen nhw'n achosi difrod troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol."
Ychwanegodd: "Ni allwn ganiatáu i’r sefyllfa bresennol barhau lle mae pobl ifanc allan bob oriau, ben bore, yn achosi anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a difrod troseddol – mae'n rhaid gwneud rhywbeth yn ei gylch."
Mae'r Cynghorydd Nigel Smith yn annog y cyhoedd i adrodd y fandaliaeth.
Dywedodd: "Rwy’n drist ac yn siomedig gyda’r holl fandaliaeth ar y promenâd yn Llandudno.
"Fe gawsom gyllid i osod strwythurau newydd yn lle pob un o’r saith lloches ar hyd Promenâd Llandudno i ymwelwyr a thrigolion yr ardal gael mwynhau.
"Yn anffodus, ers mis Gorffennaf 2024, mae pob un ond un o’r llochesi newydd wedi’u fandaleiddio, weithiau dro ar ôl tro."
Ychwanegodd: "Bydd atgyweirio’r difrod yn costio tua £16,000, ac mae hynny’n arian a allai fod wedi’i wario ar rywbeth arall.
"Nid yw’n dderbyniol i’r gymuned leol, nac i’n hymwelwyr orfod dioddef y dinistr hwn ar hyd Promenâd Llandudno."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiadau gysylltu â'r heddlu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 24000995670.