Newyddion S4C

Merch yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman

Ysgol Dyffryn Aman

Mae merch 14 oed wedi ei chael yn euog o geisio llofruddio dwy athrawes ac un disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill y llynedd.

Roedd y ferch, nad oes modd ei henwi oherwydd ei hoedran, eisoes wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o fwriadu anafu a bod mewn meddiant o lafn miniog.

Dywedodd y barnwr y bydd hi'n cael ei dedfrydu ar 28 Ebrill.

Roedd hi wedi gwadu ceisio llofruddio dwy athrawes, Fiona Elias a Liz Hopkin, a disgybl yn yr ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar 24 Ebrill y llynedd.

Cafodd y ddwy athrawes a’r disgybl eu trin yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu gan y ferch.

Roedd y ferch, oedd yn 13 oed ar y pryd, wedi dweud wrth Lys y Goron Abertawe yn ystod yr achos ei bod yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd ac nad oedd hi'n cofio llawer o'r digwyddiad.

Dywedodd ddydd Gwener ei fod yn “anodd cofio” beth ddigwydd a’i bod yn “sori”.

Clywodd y rheithgor gan yr erlyniad ei bod hi wedi dweud wrth ei hathrawes Fiona Elias, “dw i'n mynd i dy ladd” cyn ei thrywanu hi a Liz Hopkin oedd yn ceisio ei rhwystro.

Clywodd y rheithgor hefyd i'r heddlu ganfod darluniau yn ei bag oedd yn cyfeirio at 'Mrs Frogface Elias' ac enw'r disgybl wnaeth hi drywanu, gyda'r geiriau "boddi", "marwolaeth" a "llosgi".

'Dychwelyd i normal'

Yn dilyn y dyfarniad ddydd Llun, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin ei fod “unwaith yn rhagor… yn cydymdeimlo o waelod calon â dioddefwyr y digwyddiad a chymuned gyfan Ysgol Dyffryn Aman".

“Nid oes gan drais, o unrhyw fath, unrhyw le yn ein hysgolion nac mewn unrhyw agwedd ar gymdeithas,” meddai’r Cynghorydd Darren Price.

“Mae'r cadernid a'r tosturi sy'n rhan annatod o'r gymdeithas glos yn Ysgol Dyffryn Aman wedi galluogi'r disgyblion i ddychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth cyn gynted ag yr oedd yn ddiogel gwneud hynny, er eu budd a'u llesiant eu hunain. 

“Rwy'n mawr obeithio y bydd dyfarniad heddiw yn caniatáu i'r dioddefwyr a'r ysgol symud ymlaen yn dilyn y digwyddiad ofnadwy hwn a bydd eu preifatrwydd yn cael ei barchu.” 

Wrth siarad y tu allan i’r llys ddydd Llun, dywedodd y Ditectif Brif Uwch-arolygydd Ross Evans o Heddlu Dyfed-Powys ei fod yn gobeithio y gall disgyblion a staff Ysgol Dyffryn Aman bellach Gael “dychwelyd i normal.”

“Roedd y digwyddiad hwn yn destun gofid aruthrol a oedd nid yn unig wedi arwain at tri o bobol yn cael eu niweidio yn gorfforol ond effeithio ar les y disgyblion a oedd yn bresennol ar y pryd," meddai.

“Dymunwn yn dda iddyn nhw wrth iddynt barhau i ddod dros ddigwyddiad na ddylent byth wedi gweld mor ifanc. 

“Dylai’r ysgol fod yn lle diogel, yn hafan i ddisgyblion sy’n mynd iddi ac nid oes lle i arfau ar ei thir. 

“Hoffwn ddiolch i’m holl gyd weithwyr yn y gwasanaethau brys a atebodd ar y diwrnod ynghyd ag athrawon a staff Cyngor Sir Gâr am y ffordd wnaethon nhw ymdrin â’r digwyddiad, a’r gymuned leol am eu cymorth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.