Newyddion S4C

Trump yn gysgod dros gyfarfod Syr Keir Starmer â phenaethiaid yr UE

03/02/2025
Starmer

Bydd cyfarfod Syr Keir Starmer â phenaethiaid yr UE ddydd Llun yn bygwth cael ei gysgodi gan fygythiad rhyfel masnach ryngwladol wrth i wledydd sy’n cael eu taro gan gamau economaidd Donald Trump addo dial.

Bydd y Prif Weinidog yn annog gwledydd Ewrop i bwyso ar Vladimir Putin i roi'r gorau i'w ryfel yn Wcráin pan fydd yn cwrdd â phenaethiaid 27 llywodraeth yr Undeb Ewropeaidd ddydd Llun, wrth iddo barhau â’i ymdrechion i ail ddiffinio perthynas Prydain â’r Undeb.

Ond mae'r trafodaethau, sydd i fod i ganolbwyntio ar amddiffyn, yn debygol o droi at y newyddion o ochr draw i Fôr yr Iwerydd.

Mae arlywydd yr Unol Daleithiau wedi cyhoeddi y bydd yn gosod trethi masnach o 25% ar nwyddau sy’n dod o wledydd agosaf at America a'i phartneriaid masnach mwyaf – Canada a Mecsico – yn ogystal â thollau ychwanegol o 10% ar nwyddau o Tsieina.

Mae’r tair gwlad wedi addo ymateb i gamau Mr Trump, gan godi ofnau am ryfel masnach fyd-eang.

Fe fydd Syr Keir yn annog gwledydd yr UE i ysgwyddo mwy o faich wrth gynnig cymorth i Wcráin yn y cyfarfod yng Ngwlad Belg ddydd Llun.

Bydd yn galw arnynt i ddilyn sancsiynau’r DU a’r Unol Daleithiau ar economi Rwsia a chanmol bygythiad Mr Trump o gyfyngiadau pellach.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cwrdd ag ysgrifennydd cyffredinol Nato, Mark Rutte, ym mhencadlys y gynghrair ym Mrwsel.

Llun: Jonathan Brady/PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.