Newyddion S4C

'Diffyg ffocws ag eglurder': Beirniadaeth o gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

03/02/2025
Y Senedd

Mae un o bwyllgorau Senedd Cymru wedi disgrifio cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fel un sy’n llawn ‘geiriau gwag’.

Mae adroddiad Pwyllgor Cyllid y Senedd sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Llun yn galw am wneud 'newidiadau brys' i’r Gyllideb ddrafft gan fod 'diffyg ffocws ac eglurder’ yn y cynigion presennol.

Bydd y cynlluniau gwariant yn cael eu trafod yn y Senedd ddydd Mawrth, pan fydd gwleidyddion hefyd yn pleidleisio ar Gyllideb 2025-26 am y tro cyntaf. 

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd yn ystyried sylwadau'r pwyllgor maes o law.

'Gwelliannau angenrheidiol'

Un o'r prif feysydd sy'n peri pryder i'r Pwyllgor yw effaith y cynnydd mewn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar sefydliadau yng Nghymru.

Dywedodd yr elusen digartrefedd Llamau y bydd y cynnydd yn costio £500,000 ychwanegol y flwyddyn nesaf ac esboniodd Marie Curie hefyd eu bod yn wynebu bil ychwanegol o £260,000 yng Nghymru yn unig.

Gwnaeth nifer o gyrff rybuddio’r Pwyllgor eu bod yn wynebu ‘senario ymyl y diben’ os na chaiff cymorth ychwanegol ei ddarparu.

Clywodd y Pwyllgor hefyd y gallai’r cynnydd mewn Yswiriant Gwladol effeithio’n anghymesur ar Gymru gan fod y newidiadau’n cael mwy o effaith ar weithwyr ar gyflogau is a bod Cymru’n tueddu i fod â mwy o weithwyr ar gyflogau isel o gymharu â chyfartaledd y DU.

‘Geiriau gwag’

Dywedodd Canghellor Trysorlys y DU mai setliad ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 oedd y cynnydd mwyaf mewn termau real yn ei chyllid ers datganoli.

Roedd yn addo ‘optimistiaeth’ a ‘dyfodol disgleiriach’.

Ond, yn ôl tystiolaeth y Pwyllgor, nid yw cynigion gwariant Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r rhethreg hon - ac mewn sawl maes nid ydynt yn ddim mwy na ‘geiriau gwag’.

Cymorth i wasanaethau

Dywedodd Peredur Owen Griffiths, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid: “Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, mae’r Pwyllgor hwn a sawl un arall wedi clywed gan arbenigwyr na fydd cynlluniau’r Gyllideb ar gyfer eleni yn darparu lefelau digonol o gymorth ar gyfer gwasanaethau hanfodol yng Nghymru.

“Cyfeiriwyd at y cynnydd mewn Yswiriant Gwladol i gyflogwyr fel pryder mawr gan lawer o sefydliadau, fel y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, gyda rhai yn dweud y gallai hyd yn oed arwain at eu cau.  

“Rydyn ni’n gwybod nad yw’r heriau costau byw y mae llawer o bobl yn eu hwynebu wedi diflannu ac mae ein neges i Lywodraeth Cymru yn glir: nid nawr yw'r amser i dorri'n ôl ar roi cymorth i bobl sy’n agored i niwed."

Ychwanegodd: “Mae’r adroddiad heddiw yn amlinellu pryderon difrifol am y Gyllideb arfaethedig ac yn darparu argymhellion clir i Lywodraeth Cymru eu hystyried. Os yw’r Gyllideb arfaethedig i fod yn arwydd o ddechrau newydd a seibiant o’r cyni ariannol, yn anffodus mae tipyn o waith i’w wneud eto.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.