Newyddion S4C

Canolbarth Cymru yn ymuno â chynllun peilot llysoedd teulu

03/02/2025
S4C

Mae cynllun sy'n ceisio datrys achosion llysoedd teulu yn gyflymach yn cael ei ehangu, gyda chanolbarth Cymru wedi ei gynnwys yn y prosiect. 

Nod y cynllun Pathfinder yw i glirio'r rhestr o achosion sydd eto i'w clywed mewn llysoedd teulu, a sicrhau bod rhai achosion yn osgoi ymddangosiadau anodd yn y llys yn gyfan gwbl, meddai’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Gyda £12.5 miliwn o gyllid, mae’r cynllun yn cael ei ehangu i ganolbarth Cymru a Sir Gorllewin Efrog, ar ôl cael ei dreialu yng ngogledd Cymru a Dorset yn 2022.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno yn ne-ddwyrain Cymru a Birmingham y llynedd.

Dywedodd y Gweinidog Cyfiawnder, yr Arglwydd Ponsonby: “Ers yn rhy hir mae teuluoedd wedi cael eu gosod yn erbyn ei gilydd yn y llys, neu mae camdrinwyr wedi meddiannu gwrandawiad er mwyn parhau ag ymgyrchoedd o greulondeb. 

"Plant a phobl sy’n agored i niwed sy'n dioddef oherwydd hynny, a rhaid i hyn ddod i ben.

“Mae Pathfinder wedi’i groesawu fel dull llai gwrthwynebus, ac mae tystiolaeth gynnar yn dangos ei fod yn gweithio. Mae hwn yn gam pwysig arall tuag at gyflawni ein haddewid o haneru trais yn erbyn menywod a merched, ” meddai. 

Rhannu gwybodaeth

Dan y cynllun, mae cynghorau, yr heddlu, a gwasanaethau cymorth yn casglu a rhannu gwybodaeth cyn gynted â bo modd mewn achosion teulu.

Caiff y broses ei defnyddio wedyn i geisio datrys anghydfod teuluol yn gyflymach, ac i osgoi gwrandawiadau a allai fod yn elyniaethus yn gyfan gwbl.

Dan y cynlluniau peilot, mae’r achos cyfartalog wedi gostwng o 29 wythnos i 18 wythnos yng ngogledd Cymru.

Mae nifer yr achosion agored wedi haneru yn y rhanbarth ers dechrau'r cynllun peilot, meddai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.