Palas yn rhoi'r gorau i ddatgelu manylion gwisgoedd Tywysoges Cymru
Ni fydd Palas Kensington bellach yn datgelu manylion gwisgoedd Tywysoges Cymru yn ystod ei hymrwymiadau brenhinol, fel mater o drefn, yn ôl adroddiadau.
Yn ôl y Sunday Times, mae'r dywysoges yn teimlo’n rhwystredig gan y sylw am ei steil yn hytrach na sylwedd ei gwaith.
Dywedodd y gwasanaeth newyddion y gallai Palas Kensington barhau i gyhoeddi manylion am wisgoedd neu emwaith y mae hi'n eu gwisgo ar gyfer digwyddiadau pwysig gwladwriaethol neu deuluol, er y newidiadau ar gyfer eu hymrwymiadau brenhinol.
Yn y gorffennol mae'r palas wedi cyhoeddi gwybodaeth yn aml i'r cyfryngau am y dillad a'r gemwaith y mae'r dywysoges yn eu gwisgo.
Mae brandiau yn aml wedi cael hwb gan yr hyn sy'n cael ei alw'n "effaith Kate" ar ôl iddi wisgo eu cynnyrch.
Dywedodd ffynhonnell o Balas Kensington wrth y Sunday Times: "Mae yna deimlad llwyr na ddylai'r sylw fod ar yr hyn y mae'r dywysoges yn ei wisgo.
“Mae hi eisiau i’r ffocws fod ar y materion gwirioneddol bwysig, y bobl a’r achosion y mae’n tynnu sylw atynt.
“Fe fydd yna wastad werthfawrogiad o’r hyn mae’r dywysoges yn ei wisgo gan rai o’r cyhoedd ac mae hi’n sylweddoli hynny.
“Ond a oes angen i ni fod yn swyddogol bob amser yn nodi beth mae hi'n ei wisgo? Na. Mae'n ymwneud â'r sylwedd.”
Ni chyhoeddodd Palas Kensington fanylion gwisg y dywysoges i’r cyfryngau yn ystod ei hymweliad diweddar â Bro Morgannwg a Sir Gaerfyrddin.
Fe wnaeth hi gwrdd â phobl ifanc yn Hosbis Plant Tŷ Hafan.
Mae’r dywysoges, a gadarnhaodd fis diwethaf ei bod yn glir o ganser, wedi dod yn noddwr i’r hosbis.
Fe wnaeth hi hefyd ymweld â’r gwneuthurwr dillad gwlan a hosanau o Gymru, Corgi, yn Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.