Llanfairpwll: Un o'r cymunedau cyntaf yn Ewrop i dreialu system daliadau newydd
Llanfairpwll ar Ynys Môn fydd un o'r cymunedau cyntaf yn Ewrop i dreialu technoleg newydd ym maes taliadau gyda chwmni Mastercard.
Mae Mastercard wedi dewis sawl lleoliad yn Ewrop gydag enw hir, er mwyn arbrofi gyda chynllun taliadau cyflym sydd angen un clic yn unig.
Ac roedd Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yn ddewis amlwg.
Mae ymchwil Mastercard yn awgrymu ei bod hi'n cymryd ychydig yn llai na thair munud ar gyfartaledd i gwsmer nodi ei gyfeiriad a'i fanylion talu tra'n siopa ar-lein.
Yn ôl y cwmni, byddant yn cynnig sesiynau i drigolion Llanfairpwll yn egluro sut mae'r dechnoleg newydd yn gweithio.
Ac yn ôl y darparwr taliadau, Llanfairpwll fydd un o'r cymunedau cyntaf yn Ewrop i arbrofi gyda'r dechnoleg newydd hon sydd yn ceisio arbed amser.
Mae'n caniatáu i siopwyr dalu masnachwyr ar-lein, heb yr angen i rannu rhifau hir eu cerdyn banc, medd Mastercard.
Yn hytrach, bydd proses arall ar gael sydd yn cynnig rhifau ar hap neu docyn ar gyfer pob taliad.
Yn ôl y cwmni, mae'r system hon yn gwarchod cwsmeriaid rhag sgamwyr.
Wrth ymateb i'r datblygiad, dywedodd y cynghorydd sir sy'n cynrycholi Llanfairpwll Dyfed Wyn Jones: “Rydym yn falch o'n treftadaeth, ond rydym hefyd yn deall gwerth arbed amser."
Ymhlith y dinasoedd a threfi eraill a fydd yn rhan o'r cynllun mae Brandys nad Labem-Stara Boleslav yn Tsiecia a Westerhaar-Vriezenveensewijk yn Yr Iseldiroedd.
Yn ôl gwaith ymchwil a gafodd ei gomisiynu gan Mastercard, mae naw ym mhob 10 o siopwyr (94%) yn rhoi'r gorau i brynu ar-lein pan yn wynebu oedi, rhwystr, neu broblem yn y blwch talu.
Dywedodd un o reolwyr Mastercard Simon Forbes: “Mewn cwta ddwy flynedd, mae'n ail natur i ni roi ergyd fach ysgafn i'n cerdyn er mwyn talu'n ddigyswllt mewn siop.
“Bellach, mae'n bryd i ni gamu i fyd taliadau ar-lein drwy un clic yn unig.”