Trafferthion technegol Barclays wedi eu datrys medd y banc
Yn ôl banc Barclays, mae eu gwasanaethau bellach yn ôl i'r arfer, wedi bron i dridiau o broblemau technegol sydd wedi effeithio ar filoedd o'u cwsmeriaid.
Yn ôl y banc, mae'r mater wedi ei ddatrys fore Sul, ac mae taliadau a oedd yn hwyr yn cyrraedd cyfrifon, bellach wedi eu prosesu.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, roedd balans nifer fawr o'u cwsmeriaid yn anghywir ar eu mantolen.
Fore Sul, dywedodd llefarydd ar ran Barclays: “Mae'r broblem dechnegol sydd wedi effeithio ar ein cwsmeriaid ddydd Gwener a Sadwrn bellach wedi ei datrys, ac mae taliadau hwyr wedi eu prosesu.
“Mae modd i gwsmeriaid ddefnyddio ein ap, bancio ar-lein, ein ffonio, defnyddio eu cardiau, a thynnu arian bellach. Rydym yn gweithio i geisio sicrhau fod balans pawb yn gywir, ac yn mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n parhau.
“Mae'n wir ddrwg gennym am hyn, a byddwn yn sichrau na fydd unrhyw gwsmer wedi colli arian.
“Rydym yn cadw ein canolfannau galw ar agor yn hirach y penwythnos hwn a byddwn yn cysylltu â chwsmeriaid allai fod yn fregus.”
Mae'n ymddangos mai problem dechnegol oedd ar fai yn hytrach nag ymosodiad seibr.
Dechreuodd y problemau technegol ddydd Gwener, sy'n ddiwrnod derbyn cyflog i nifer o bobl, a dydd Gwener oedd y diwrnod olaf i gyflwyno ffurflen dreth hunan-asesiad.
Dywedodd yr Adran Dreth eu bod yn "gweithio'n agos" gyda Barclays er mwyn sicrhau'r effaith leiaf bosibl ar gwsmeriaid sy'n ceisio cyflwyno eu taliadau treth.