Newyddion S4C

Sefydlu cronfa wedi marwolaeth sydyn dynes ifanc o Fôn

01/02/2025
Kiera Lloyd
Mae dros £2,600 wedi ei godi ar gyfer teulu dynes 21 oed o Lanfechell, Ynys Môn sydd wedi marw'n sydyn. 
 
Roedd Kiera Lloyd yn fam i ddau o blant, bachgen pedair oed a merch un oed.
 
Wedi ei geni yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro, cyn cael ei magu ym Mangor, roedd hi bellach yn magu ei phlant gyda'i phartner Sion yn Llanfechell.  
 
Mae trefnydd y dudalen codi arian yn nodi fod y gronfa wedi ei sefydlu er mwyn rhoi cymorth i Sion a'i ddau o blant "ar yr adeg anodd hon".
 
Cafodd Kiera Lloyd ei rhuthro i ysbyty yn Lerpwl, ddydd Iau 23 Ionawr. 
 
Mae'r neges yn nodi: " Gadawodd ein hannwyl Kiera ni a hithau ond yn 21 oed.     
 
"Roedd Kiera yn ferch brydferth, yn llawn hwyl ac yn berson cariadus, a oedd yn barod i roi cymorth i unrhyw un a oedd ei angen. 
 
"Yn ffrind annwyl, mam a merch, bydd pawb a oedd yn ei hadnabod yn ei cholli.  
 
"Fel y medrwch ddychmygu, mae ein calonnau wedi torri." 
 
Mae Rhian Sinnott, perchennog siop anrhegion a thlysau Cain yng nghanol Llangefni wedi cyhoeddi teyrnged i Kiera Lloyd:
 
"Gyda’r Nôs Iau 23 o Ionawr, collodd ein mab Sion ei bartner Kiera…a’i plant bach 4 a 1 oed yn colli Mam. 
 
"Roedd Kiera ond 21 oed. Mae bywyd yn gallu bod mor greulon. 
 
"Fel teulu rydym yn gneud bob dim i allu cefnogi Sion yn yr amser trasig a dinistriol yma."
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.