Rhyddhau 183 o garcharorion Palesteinaidd ar ôl i Hamas ryddhau tri o wystlon Israel
Mae 183 o garcharorion Palesteinaidd wedi eu rhyddhau o garchar yn Israel ar ôl i Hamas ryddhau tri o wystlon Israelaidd.
Cafodd y cyn garcharorion Palesteinaidd eu cludo mewn bysiau i'r Lan Orllewinol a Llain Gaza.
Mae croesfan Rafah - sef yr unig groesfan rhwng yr Aifft a Llain Gaza - wedi ailagor ar ôl wyth mis, wrth i'r grŵp cyntaf o Balesteiniaid oedd wedi eu hanafu gael eu symud i'r Aifft
Daw hyn ar ôl rhyddhau tri gwystl Israelaidd yn gynharach - Yarden Bibas, Ofer Kalderon a Keith Siegel - fel rhan o'r cytundeb cadoediad rhwng Israel a Hamas a ddechreuodd ar 19 Ionawr.
Cafodd y tri eu rhyddhau fore Sadwrn gan Hamas.
Yn gyfnewid am hyn, fe wnaeth Israel ryddhau 183 o garcharorion Palesteinaidd.
Ofer Kalderon ac Yarden Bibas oedd y ddau gyntaf i'w rhyddhau a'u trosglwyddo i ofal y Groes Goch yn Khan Younis fore Sadwrn.
Cafodd yr Americanwr-Israelaidd Keith Samuel Siegel ei ryddhau ar wahân.
Mewn cyfnewid, fe ryddhawyd 183 o garcharorion Palesteinaidd - rhai ohonynt wedi eu dedfrydu i garchar am oes yn Israel, yn ôl y Groes Goch.
Yng ngham cyntaf y cadoediad, mae Hamas yn dychwelyd 33 o wystlon dros chwe wythnos. Yn gyfnewid am hyn, mae Israel wedi cytuno i ryddhau 737 o garcharorion Palesteinaidd.
Llun: Wochit