Dau blismon wedi’u hanafu ar ôl ‘aflonyddwch’ y tu allan i orsaf heddlu yn ne Cymru
Mae dau blismon wedi’u hanafu ar ôl “aflonyddwch” y tu allan i orsaf heddlu yn ne Cymru.
Cafodd swyddogion eu galw tua 19:00 nos Wener wedi adroddiadau bod dyn wedi “achosi aflonyddwch” y tu allan i Orsaf Heddlu Tonysguboriau yn Rhondda Cynon Taf, meddai Heddlu De Cymru.
Cafodd dau swyddog eu hanafu yn y digwyddiad ac aed â nhw i’r ysbyty, lle maen nhw’n cael triniaeth am anafiadau nad ydynt yn peryglu bywyd.
Cafodd dyn ei arestio ac mae’n parhau yn y ddalfa, ond dywedodd yr heddlu fod ymchwiliadau’n parhau ac y bydd cordon a ffyrdd ar gau yn yr ardal am gyfnod o amser.
Galwodd Alex Davies-Jones, AS Llafur Cymru dros Bontypridd, ar i bobol fod yn “ymwybodol” o ddyfalu neu ledaenu gwybodaeth anghywir tra bod yr heddlu’n cynnal ymchwiliadau.
“Rwy’n gwybod y bydd pobl yn gwbl bryderus ynghylch y digwyddiad yn gynharach yn Nhonysguboriau,” meddai ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae fy meddyliau gyda’r swyddogion sydd wedi’u hanafu a’u teuluoedd. Parchwch eu preifatrwydd ar yr adeg hon, ac ymatal rhag postio unrhyw sylwadau a allai achosi trallod.
“Rwy’n dawel fy meddwl bod yr heddlu’n gwneud popeth o fewn eu gallu ac yn parhau i weithio’n ddiflino bob dydd i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
“Osgowch yr ardal os gallwch chi, a byddwn i’n annog pawb i fod yn ymwybodol o unrhyw ddyfalu neu wybodaeth anghywir tra bod ymchwiliadau’n parhau.”
Mae cynghorydd Tonysguboriau, Sarah Jane Davies, hefyd wedi apelio ar i bobl osgoi'r ardal.
Dywedodd ar y cyfryngau cymdeithasol: “Rwyf am fynegi fy niolch i Heddlu De Cymru am eu hymateb cyflym a chanmol eu hymroddiad parhaus i’n diogelwch.
“Rwy’n annog yr holl drigolion i osgoi’r ardal er mwyn caniatáu i’r gwasanaethau brys gyflawni eu gwaith.”
Llun: Google Street View