Darganfod corff ail ddynes wedi diflaniad chwiorydd
Mae’r heddlu yn yr Alban wedi darganfod corff ail ddynes mewn afon, wrth chwilio am chwiorydd sydd ar goll yn ardal Aberdeen.
Cafodd Henrietta a Eliza Huszti, y ddwy yn 32 oed ac yn set o dripledi, eu gweld ddiwethaf ger Afon Dee ar 7 Ionawr.
Dywedodd yr heddlu fore Gwener bod corff wedi ei ddarganfod yn Afon Dee tua 08:00, ac er nad yw wedi ei adnabod yn ffurfiol eto, mae teulu’r chwiorydd wedi cael gwybod.
Bellach, mae Heddlu'r Alban wedi cyhoeddi fod corff ail ddynes wedi ei ddarganfod yn yr afon ger Pont Victoria, tua 21:05 nos Wener.
Nid yw’r ddynes wedi’i hadnabod yn ffurfiol eto, ond mae’r teulu Huszti wedi cael gwybod am y datblygiad.
Dywedodd yr heddlu bod eu hymholiadau'n parhau, ond nad oes unrhyw amgylchiadau amheus.
Diflannodd y chwiorydd ar ôl gadael eu fflat yn Aberdeen yn ystod oriau mân 7 Ionawr.
Am 2:12 am, derbyniodd eu landlord neges ganddyn nhw yn nodi na fyddai'r ddwy yn dychwelyd i'r fflat.
Mae'r ddwy i'w gweld ar y pryd ar luniau CCTV yn cerdded ger Afon Dee.
Llun: Heddlu'r Alban