Newyddion S4C

Trafferthion cwsmeriaid Barclays yn parhau 24 awr wedi problem dechnegol

01/02/2025
Barclays

Does dim modd i gwsmeriaid Barclays wneud taliadau bron 24 awr ers i'r banc gyhoeddi fod nam ar eu systemau bancio ar-lein.   

Mae rhai cyfrifon ar-lein wedi eu cloi ers ddydd Gwener.  

Mae'r banc wedi ymddiheuro i'w cwsmeriaid, gan nodi eu bod yn wynebu “trafferthion technegol sy'n parhau, sy'n effeithio ar gyfrifon cwsmeriaid".

Maen nhw'n rhybuddio bod balans rhai cwsmeriaid yn anghywir, ac nad yw pob taliad yn ymddangos ar y fantolen.   

“Byddwn yn sichrau na fydd unrhyw gwsmer yn colli arian," medd datganiad gan Barclays ddydd Sadwrn.   

Yn ôl rhai cwsmeriaid, dydyn nhw ddim wedi medru cael gafael ar eu harian ers 24 awr. 

Mae nifer wedi mynegi eu rhwystredigaeth ar gyfryngau cymdeithasol;  

Dywedodd un cwsmer: “Oherwydd Barclays, does gen i ddim arian, roedd gen i archeb fwyd oedd i fod i'n cyrraedd y bore ma, a fydd bellach yn cael ei chanslo, gan adael fy mhedwar o blant heb fwyd. Mae'n jôc, gan mai fy arian i yw e.”

Holodd cwsmer arall: “Sut allaf fwyta a chadw'n gynnes os nad oes modd i mi gael gafael ar fy arian?”

Dywedodd un fam nad yw hi yn medru prynu llaeth ar gyfer ei babi: “Does gen i didm llaeth powdwr ar gyfer fy mhlentyn pedwar mis oed, sy'n sgrechian am ei bwyd, a dydw i'n dal ddim wedi cael fy nhalu.” 

“Rydw i yn fy nagrau ers oriau,” ychwanegodd. 

Mae Barclays wedi ymateb i nifer o'r sylwadau, gan ymddiheuro am y trafferthion.   

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.