Newyddion S4C

Warren Gatland: ‘Methu cwestiynu ymdrech y chwaraewyr'

01/02/2025
Ffrainc v Cymru

Mae prif hyfforddwr tîm rygbi Cymru Warren Gatland wedi cefnogi ei chwaraewyr yn dilyn y grasfa o 43-0 yn erbyn Ffrainc ym Mharis nos Wener.

Dywedodd Gatland nad oedd yn gallu cwestiynu ymdrech y chwaraewyr a fethodd â sgorio pwynt yn erbyn Les Bleus. 

Dywedodd: "Maen nhw'n siomedig. Maen nhw'n sylweddoli y safon roedden nhw yn ei erbyn.

"Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi'n noson wael iawn yn y swyddfa. Roedd yna adegau pan roedden ni wedi eu rhoi nhw dan bwysau a heb fanteisio.

“Fe ddechreuon ni’n dda, ond wrth edrych yn ôl, rydyn ni wedi rhoi ein hunain dan bwysau ar brydiau trwy or-chwarae.

"Dyna reolaeth y gêm y bydd y chwaraewyr yn ei ddysgu heno."

Wrth edrych ymlaen ar gyfer her nesaf Cymru yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain ddydd Sadwrn nesaf,  fe ychwanegodd Gatland: “Mae'r wythnos nesaf yn dod yn eithaf pwysig i ni. Allwn ni ddim cuddio rhag hynny."

"Mae'r chwaraewyr wedi gweithio'n galed dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac mae'r chwaraewyr yn ymwybodol o ba mor bwysig yw wythnos nesaf."

Dosbarth meistr

Dywedodd cyn-ganolwr Cymru a’r Llewod Jamie Roberts ar ôl y gêm:"Dwi'n meddwl bod diffyg treiddiad gyda Chymru.

“Ar adegau, roedd eu siâp ymosod yn edrych yn rhagweladwy.

"Holl bwrpas siâp ymosodol yw creu cyfleoedd a doedd yna ddim. Pan fyddwch chi'n creu gofod ar y cae, rydych chi eisiau creu un-ar-un a manteisio arnyn nhw.

"Ond wnaeth Cymru ddim. Roedd yn teimlo fel dipyn o ddosbarth meistr amddiffynnol gan Ffrainc.

"Wnaethon nhw ddim dod oddi ar y llinell yn rhy galed ac roedden nhw'n gallu gwrthsefyll Cymru. Bydd rhaid iddyn nhw roi rhywfaint o dreiddiad yn y tîm hwnnw a dwi'n meddwl y byddan nhw'n cefnogi'r canolwyr ifanc yr wythnos nesaf."

Roedd Watten Gatland hefyd yn feirniadol o’r dyfarnu. Dywedodd: “Doedd y cyfrif cosbau ddim o’n plaid ni ac roeddwn i’n meddwl bod yna gwpwl o alwadau anodd.

"Roedd yna ergyd uchel ar Josh Adams aeth heb gosbi. Roeddwn i'n meddwl bod y cerdyn melyn ar Freddie Thomas yn eithaf llym.

"Ond dyna sy'n digwydd weithiau yn y senarios hynny, dydych chi ddim yn mynd i gael galwadau sy'n mynd eich ffordd."

Ychwanegodd mai'r gêm yr wythnos nesaf yn erbyn Yr Eidal yw'r canolbwynt bellach.  

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.