Galwad frys am wirfoddolwyr i helpu bachgen sydd â lewcemia
Mae teulu bachgen yn ei arddegau yn galw am fwy o bobl ifanc i gofrestru fel gwirfoddolwyr bôn-gelloedd gyda Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Mae Aston yn ddisgybl 16 oed o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi cael diagnosis o Lewcemia Lymffoblastig Acíwt, math prin ac ymosodol o ganser, ar 10 Rhagfyr, 2024.
Mae'n gobeithio dod o hyd i roddwr bôn-gelloedd (sydd yn cael ei alw hefyd yn fêr esgyrn) i'w helpu i oresgyn y clefyd.
Mi fydd hi’n Ddiwrnod Canser y Byd ddydd Mawrth, 4 Chwefror 2025, ac mae rhieni Aston yn arwain yr alwad i gael mwy o bobl ifanc rhwng 16 a 30 oed i ymuno â Chofrestr Gwasanaeth Gwaed Cymru - gan obeithio y bydd un yn cyfateb i Aston.
Cafodd Aston ddiagnosis o dwymyn y chwarennau i ddechrau, ond parhaodd ei gyflwr i ddirywio.
Daeth y teulu'n fwy pryderus pan ddechreuodd Aston deimlo'n flinedig, yn gyfoglyd a phan ddechreuodd rhannau eraill o’i gorff chwyddo.
“Chwalodd fy nghalon yn llwyr”, meddai ei fam, Siân Mansell, pan eglurodd y meddyg fod ganddo ganser.
Cafodd ei anfon i Ysbyty Arch Noa yng Nghaerdydd i gael triniaeth cemotherapi, ac roedd angen gwaed a phlatennau fel rhan o’r driniaeth hefyd.
“Dydy ei gorff ddim yn ymateb i’r driniaeth cemotherapi fel y dylai” meddai, “felly mae’n edrych yn debyg y bydd angen trawsblaniad bôn-gelloedd arno… bydd y trawsblaniad yn helpu i'w wella trwy amnewid ei gelloedd, sy'n achosi'r canser, gyda chelloedd iach gan roddwr."
Mae mwy na 40 miliwn o bobl ar gofrestrau ar draws y byd sydd wedi cytuno i helpu pobl fel Aston, ond mae tri o bob deg claf yn dal i fethu dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw.
Mae tad Aston, Jason Bevington, wedi dweud ei fod yn ddiolchgar iawn o’r gefnogaeth y mae ei fab wedi ei gael dros y misoedd diwethaf, yn enwedig yn y cymunedau chwaraeon.
“O negeseuon gan bobl enwog yn dymuno pen-blwydd hapus iddo, i glwb rygbi ei dref enedigol, Clwb Rygbi Porthcawl, yn siafio eu pennau!" meddai.
Ychwanegodd Siân: “Mae wedi cael ei wneud yn gwbl glir i ni, ac yn bendant i Aston, nad yw’n ymladd y frwydr hon ar ei ben ei hun. Mae ganddo fyddin gyfan y tu ôl iddo."
“Byddai dod o hyd i roddwr yn rhoi cyfle i Aston fynd yn ôl i wneud yr hyn mae’n ei garu, sef chwarae pêl-droed, rygbi a bod gyda’i deulu a’i ffrindiau,” meddai’i lystad, Nathan Strong, gan amlygu’r pwysigrwydd o ddod o hyd i roddwr addas.
Dywedodd Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Bydd llawer o bobl â chyflwr Aston yn mynd ymlaen i fod angen trawsblaniad bôn-gelloedd, sy'n cynnig y siawns orau iddynt o gael iachâd dros y tymor hir.”
“Fe allech chi fod yr un person yn y byd sydd yn cydweddu gydag Aston neu rywun tebyg iddo, a dyna pam rydym angen mwy o bobl i gofrestru.” meddai.