Caerdydd: Perchennog yn amddiffyn ailagor clwb enwog

Caerdydd: Perchennog yn amddiffyn ailagor clwb enwog
Mae perchennog clwb newydd yng Nghaerdydd wedi amddiffyn y penderfyniad o ddefnyddio enw tebyg i’r hen safle.
Bydd ‘The New Moon’ ar Stryd Womanby yn agor ar 1 Chwefror.
Ar ôl agor yn 2017, fe gaeodd clwb enwog The Moon ei ddrysau fis Tachwedd y llynedd oherwydd rhesymau ariannol.
Ond fis Ionawr, daeth cyhoeddiad y bydd y clwb yn ail-agor, dan enw The New Moon, o dan reolaeth y tîm sy’n rheoli’r clwb Bunkhouse, sydd hefyd yng Nghaerdydd.
Er bod nifer yn croesawu’r newyddion bod y clwb yn ailagor, mae rhai yn anhapus bod y perchnogion newydd wedi defnyddio enw tebyg i’r hen enw.
Dywedodd Luke Ashley, 30, cerddor o Gaerdydd: "(Mae’n) amharch llwyr i esgus parhau fel The Moon pan nad oes gennych gysylltiad â nhw, a dim parch at y brand a adeiladon nhw ers blynyddoedd.”
Mae Theo Meller, 22, hefyd yn cwestiynu’r penderfyniad: “Ydych chi'n helpu'r perchennog gwreiddiol? Neu a ydych chi'n defnyddio'r enw The New Moon i osgoi camau cyfreithiol?”
Mae rhai wedi cyhuddo’r perchonogion newydd o ddangos amharch.
"Be' dwi'n ffeindio'n rhyfedd am hyn - ydy'r agwedd amharchus… fe wnaethon nhw mor dda am greu brand eich bod chi wedi dwyn yr enw?", meddai Serena Cutler, 36, artist lleol oedd yn mynd i The Moon.
‘Cydnabod y gorffennol’
Ond mae rhai yn amddiffyn y newid, gan gynnwys rheolwr y clwb newydd, Matt Cutrupi: "Rydyn ni wedi dewis yr enw i dalu ychydig o deyrnged a chydnabod y gorffennol."
Er bod Matt yn deall pryderon y cyhoedd i raddau, mae’n amddiffyn y penderfyniad i brynu'r clwb a gwneud rhywbeth newydd.
"Roedden ni'n nodi ein bod ni'n mynd i gau'r drysau ar rai dulliau cerddorol, a bod hyn yn mynd i ddod gydag ychydig o backlash.
"Ond, pwy bynnag oedd yn mynd i gymryd drosodd y gofod yna, roedden nhw'n mynd i wynebu backlash... oni bai eich bod chi'n mynd i wneud yr un peth yn union.
"Dwi'n meddwl i rai pobl mae'r rheswm mor syml â’u bod nhw'n gofidio bod The Moon wedi cau, a bod 'na newid yn digwydd.
"Rydym yn barod i agor ein drysau, a derbyn adborth, fel y gallwn weithredu newid."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Roedd cau The Moon wrth gwrs yn golled i sîn gerddoriaeth y ddinas, fel y mae cau unrhyw leoliad.
"Fodd bynnag, mae agor The New Moon, ychydig fisoedd ar ôl cau The Moon, yn arwydd calonogol o iechyd ehangach ecosystem gerddorol Caerdydd."