Newyddion S4C

Achos Dyffryn Aman: Merch yn dweud ei bod hi'n 'difaru' trywanu dwy athrawes a disgybl

31/01/2025
Ysgol Dyffryn Aman

Rhybudd: mae'r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am hunan-niweidio

Mae merch 14 oed wnaeth drywanu dwy athrawes a disgybl mewn ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn dweud ei bod hi'n "difaru" yr hyn ddigwyddodd, clywodd llys.

Cafodd Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl arall eu trin yn yr ysbyty ar ôl cael eu trywanu gan y ferch yn Ysgol Dyffryn Aman ar 24 Ebrill y llynedd.

Mae'r ferch, sydd heb ei henwi oherwydd ei hoedran, wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o fwriadu anafu a bod mewn meddiant o lafn miniog.

Mae hi'n gwadu tri chyhuddiad o geisio llofruddio.

Dywedodd y ferch yn ei harddegau wrth y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener ei bod yn ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd ac nad oedd hi'n cofio llawer o'r digwyddiad.

"Mae'n gallu bod yn anodd anghofio ond hefyd yn anodd cofio. Ond dwi'n teimlo'n sori," meddai.

Gofynnodd Katherine Rees KC ar ran yr amddiffyniad wrth y ferch sut oedd hi'n teimlo am achosi anafiadau difrifol i dri pherson.

"Dyw e ddim yn swno fel fi. Dyw e ddim yn teimlo fel rhywbeth byddwn i'n ei wneud," meddai'r diffynnydd.

Ychwanegodd nad oedd hi'n credu bod hi wedi trywanu'r tri. Dywedodd y byddai'n troi'r cloc yn ôl petai hi'n gallu a byddai ddim yn gwneud yr un peth eto os oedd ganddi'r cyfle.

Nid oedd hi eisiau lladd y tair chwaith, meddai.

'Casáu hi'

Ar ddiwrnod y trywanu, dywedodd y ferch wrth y rheithgor ei bod yn "anhapus iawn" ac roedd ei hemosiynau "i fyny ac i lawr."

Clywodd y llys ei bod hi yn mynd â chyllyll gyda hi i'r ysgol pan oedd hi'n iau oherwydd roedd hi'n cael ei bwlio, a hefyd yn hunan-niweidio.

Gofynnodd Ms Rees wrth y diffynnydd os oedd ganddi fwriad i ddefnyddio'r cyllyll ar unrhyw un arall cyn y digwyddiad.

Atebodd hi "na."

Fe wnaeth Ms Elias ddarganfod cyllell ym mag y ferch yn yr ysgol ym mis Medi 2023 a bod hi wedi cael ei gwahardd o'r ysgol am gyfnod.

Dywedodd wrth y rheithgor ei bod yn "anghwrtais ac anghyfrifol" tuag at Mrs Elias ac y byddai'n galw'n enwau y tu ôl i'w chefn.

Gofynnodd Ms Rees: “Er nad oeddech chi’n hoffi Ms Elias, oeddech chi eisiau ei brifo hi?”

“Na,” atebodd y ferch.

“Roeddwn i'n arfer dweud fy mod i'n ei chasáu, ac roeddwn i eisiau iddi adael, ond dim byd am eisiau iddi farw.”

Gofynnodd Ms Rees: “Oeddech chi eisiau iddi farw?”

“Na,” atebodd y ferch.

Gofynnodd Ms Rees: “A oeddech chi erioed wedi bwriadu ei lladd ar unrhyw adeg yn ystod hyn i gyd?”

Atebodd hi: “Na.”

Gofynnwyd i’r ferch yn ei harddegau a oedd am frifo Mrs Hopkin ac atebodd, “ddim mewn gwirionedd”.

Mynnodd hefyd nad oedd am ladd ei chyd-ddisgybl ac na allai gofio ei thrywanu.

Image
Ysgol Dyffryn Aman
Ysgol Dyffryn Aman ar ddiwrnod y digwyddiad ym mis Ebrill y llynedd.

Pan ofynnwyd iddi am y foment y cafodd ei hatal ar ôl trywanu’r disgybl arall, dywedodd: “Rwy’n ei chofio’n dweud, ‘Rwyt ti’n f*****g seicopath.'"

Pan ofynnwyd iddi gan Williams Hughes KC ar ran yr erlyniad, a oedd hi am ladd ei chyd-ddisgybl neu ei hathrawon, dywedodd: “Na”.

Gofynnodd Mr Hughes iddi am luniau ac ymadroddion mewn llyfr nodiadau y daeth yr heddlu o hyd iddo yn ei chartref, oedd yn cynnwys y geiriau: 'Rwy’n teimlo fy mod i’n mynd i gyflawni trosedd unwaith mewn oes'.

“Am ba drosedd ydych chi'n siarad? Wrth gyflawni trosedd oes a oeddech chi eisiau dod yn enwog?” gofynnodd

Atebodd hi: “Na.”

“A oeddech chi'n sôn am gyflawni llofruddiaeth pan wnaethoch chi ysgrifennu hwnna? Ydych chi'n sôn am lofruddio Mrs Elias, yn sôn am lofruddio'r disgybl?"

“Na,” atebodd hi.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.