Bangor: Beiciwr modur wedi marw a pherson wedi ei arestio
Mae gyrrwr beic modur wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Bangor fore dydd Iau.
Cafodd yr heddlu eu galw am 06.55 i wrthdrawiad ar ffordd yr A487 Bryn y Faenol, ger cyffordd Ffordd Penrhos.
Roedd y gwrthdrawiad rhwng beic modur Honda a Volkswagen Tiguan llwyd.
Cafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor lle bu farw’n ddiweddarach.
Mae ei deulu agosaf a'r crwner wedi cael gwybod.
Mae gyrrwr y Tiguan wedi’i arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac mae wedi ei ryddhau dan ymchwiliad.
Dywedodd Sarjant Liam Morris o’r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol: “Mae ein meddyliau yn parhau gyda theulu’r beiciwr modur ar yr adeg hynod anodd hon.
“Hoffem glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad ac sydd eto i siarad â ni, neu unrhyw un a allai fod wedi bod yn teithio ar hyd yr A487 o gwmpas amser y gwrthdrawiad, neu ychydig cyn hynny, sydd â lluniau camera dashfwrdd i gysylltu â ni.
“Hoffem hefyd ddiolch i’r rhai a stopiodd i helpu ac i fodurwyr am eu hamynedd tra roedd y ffordd ar gau er mwyn caniatáu i’n Hymchwilwyr Gwrthdrawiadau Fforensig gynnal eu hymholiadau cychwynnol.”
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25000079988.