Teyrnged i ddyn o Aberystwyth a fu farw ar ffordd yr A470
Mae teulu dyn o ardal Aberystwyth a fu farw ar ffordd yr A470 wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Gareth Stephenson mewn gwrthdrawiad dau gerbyd rhwng Llanidloes a Llandinam tua 22.30 ar ddydd Sul 26 Ionawr.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu: "Ni all geiriau ddisgrifio faint o boen y mae’r golled ddinistriol hon wedi’i hachosi i’n teulu ac a fydd, heb os, yn ei achosi i'r bobl y gwnaeth Gareth eu cyfarfod drwy gydol ei oes.
"Goleuodd Gareth bob ystafell gyda’i wên heintus ac roedd bob amser yn gwybod sut i wneud i bobl chwerthin, boed hynny trwy ei gariad at ganu, dawnsio a phopeth dramatig neu ddim ond bod yn fo ei hun.
" Rydyn ni'n gwybod bod Gareth yn boblogaidd iawn a bydd cymaint o bobl yn gweld ei eisiau. Rydyn ni fel teulu wedi cael ein syfrdanu gyda’r negeseuon o gefnogaeth a chariad rydyn ni wedi’u derbyn gan gymaint o bobl ac rydyn ni’n cymryd cysur o wybod bod Gareth wedi cael effaith mor fawr ar gymaint o bobl."
Ychwanegodd y datganiad: "Bydd Gareth yn gadael twll mawr yn ein bywydau ac ni allwn hyd yn oed ddechrau dod i delerau â’i farwolaeth annisgwyl. Gofynnwn i bobl barchu ein preifatrwydd ar yr adeg hon wrth i ni ddechrau galaru am ein mab a'n brawd hardd."
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu gan ddefnyddio'r cyfeirnod 25*70416.