Washington DC: Darganfod blychau du wrth chwilio am atebion
Mae'r awdurdodau yn Washington D.C. yn yr UDA yn dweud bod blychau du'r awyren a'r hofrennydd a blymiodd i afon y Potomac ar ôl gwrthdaro yn yr awyr wedi cael eu darganfod.
Mae'r blychau du'n cynnwys data a gwybodaeth allai fod yn hanfodol wrth geisio darganfod beth oedd yn gyfrifol am y ddamwain a laddodd 67 o bobl.
Roedd 64 o deithwyr gan gynnwys y criw ar yr awyren, a thri aelod o'r fyddin yn yr hofrennydd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad am 21:00 amser lleol.
Hyd yma mae 30 o gyrff wedi eu darganfod a nid oes disgwyl bod neb wedi goroesi.
Dywedodd y fyddin fod yr hofrennydd ar hediad hyfforddiant, ac wedi gadael o Faes Awyr Milwrol Davison yn Fort Belvoir. Roedd yr awyren bron ar ddiwedd ei thaith o ddinas Wichita yn Kansas.
Un trywydd sydd yn cael ei ddilyn yn yr ymchwiliad yw patrwm gwaith y staff oedd yn gweithio yn y twr rheoli ym Maes Awyr Ronald Reagan - gyda chwestiynau os oedd aelodau o staff yn gwneud gormod o ddyletswyddau ar yr un pryd wrth geisio rheoli llif y traffig awyr cyn y ddamwain.
Mae manylion rhai o'r teithwyr wedi dod yn amlwg dros yr oriau diwethaf - gyda nifer yn perthyn i glybiau sglefrio iâ o dalaith Maryland ymysg y meirw.
Cyhoeddodd Clwb Sglefrio Iâ Boston bod sawl aelod wedi marw - gan gynnwys dwy ferch 16 oed.
Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Mae ein camp ni a’r Clwb hwn wedi dioddef colled erchyll gyda’r drasiedi hon.
“Mae sglefrio yn gymuned glos lle mae rhieni a phlant yn dod at ei gilydd 6 i 7 diwrnod yr wythnos i hyfforddi a gweithio gyda'i gilydd.
"Mae pawb fel teulu. O'r sglefrwyr, hyfforddwyr a rhieni ar yr awyren, credwn fod chwech yn dod o Glwb Sglefrio Boston.
"Rydyn ni wedi ein dryllio ac heb eiriau.”
Cafodd enw peilot yr awyren American Airlines ei gyhoeddi yn gynharach - Johnatan Campos oedd yn llywio'r awyren ar y pryd medd ei deulu.
Llun: Reuters