AS yn galw am dystysgrifau colli pob baban i rieni yng Nghymru
Dylai rhieni yng Nghymru sydd wedi colli babi cyn 24 wythnos o feichiogrwydd allu gwneud cais am dystysgrif i gydnabod bywyd eu plentyn, yn ôl AS Llafur.
Yn dilyn cyflwyno tystysgrifau colli babanod yn Lloegr, mae Claire Hughes, AS Llafur dros Fangor ac Aberconwy, yn galw am sicrhau bod y cynllun ar gael yng Nghymru hefyd.
Yn Lloegr, mae’r rhai sydd wedi colli babi cyn 24 wythnos o feichiogrwydd yn gallu gwneud cais am y tystysgrifau - ond nid dyma'r achos yng Nghymru.
Cafodd y cynllun ei lansio gan Lywodraeth y DU ym mis Chwefror y llynedd, cyn ei ymestyn i gynnwys pob rhiant sydd wedi colli plentyn, yn hytrach na’r rhai a brofodd colled ers mis Medi 2018, sef y bwriad gwreiddiol.
Dywedodd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Lloegr eu bod wedi cyhoeddi 95,017 o dystysgrifau.
Yn Nhŷ’r Cyffredin, dywedodd Ms Hughes: “Ers y llynedd, mae pob rhiant yn Lloegr sydd wedi profi’r torcalon o golli beichiogrwydd wedi gallu gwneud cais am dystysgrif sy’n cydnabod eu colled yn ffurfiol.”
Dywedodd bod cytundeb wedi ei wneud eisoes gyda’r cyn-ysgrifennydd gwladol dros iechyd i ymestyn y cynllun i Gymru, ond gohiriwyd y trafodaethau cyn yr etholiad cyffredinol.
“A fyddai Arweinydd y Tŷ yn ystyried ysgrifennu at y gweinidogion perthnasol a gofyn iddynt gyfarfod â mi i drafod sut gellir ymestyn y cynllun i Gymru fel bod tystysgrifau colli babanod ar gael heb unrhyw oedi pellach?” gofynnodd.
Atebodd Arweinydd Tŷ'r Cyffredin, Lucy Powell, drwy ddweud bod y tystysgrifau yn Lloegr wedi rhoi “cydnabyddiaeth a chysur” i lawer o deuluoedd sydd wedi colli babi.
“A dwi’n meddwl ei bod yn llygad ei lle am ei galwadau i gael ymestyn y cynllun i Gymru, ac fe wnai’n siŵr ei bod hi’n cael cysylltiad â’r gweinidog i drafod y peth ymhellach.”