Pryder na fydd Harry Wilson yng ngemau cyntaf ymgyrch Cwpan y Byd Cymru
Fe allai Harry Wilson golli gemau cyntaf Cymru yn eu hymgyrch i gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2026 oherwydd anaf.
Fe wnaeth rheolwr Fulham, Marco Silva, gadarnhau ddydd Iau bod Wilson wedi dioddef anaf yn ei droed yn erbyn Manchester United ar 26 Ionawr.
"Mae'n newyddion anodd i'w dderbyn. Fe fydd yn cael llawdriniaeth cyn hir, mae ganddo doriad straen (stress fracture) yn ei bumed metatarsol," meddai.
"Fe fydd e methu chwarae am gyfnod o tua wyth i 10 wythnos, ac o bosib hyd yn oed yn hirach."
Mae Cymru yn cychwyn eu hymgyrch ragbrofol ar 22 Mawrth yn erbyn Kazakhstan, sydd mewn ychydig dros saith wythnos.
Fe fyddan nhw wedyn yn teithio i Ogledd Macedonia ar gyfer eu gêm ar 25 Mawrth.
Mae Wilson wedi sgorio 12 o goliau a chwarae 60 o gemau dros Gymru.
Mae wedi bod yn rhan allweddol o'r tîm cenedlaethol ers i Craig Bellamy gael ei benodi'n reolwr yn ystod yr haf.
Llun: Asiantaeth Huw Evans