'Sioc fawr': Canolfan arddio yng Ngwynedd yn ennill gwobr am Ganolfan Orau'r Flwyddyn
Mae canolfan arddio yng Ngwynedd wedi ennill gwobr Canolfan Arddio Orau'r Deyrnas Unedig.
Enillodd Canolfan Arddio Fron Goch ger Caernarfon y wobr mewn noson wobrwyo'r Gymdeithas Ganolfan Arddio yn Reading, Lloegr.
Wrth siarad gyda Newyddion S4C dywedodd perchennog y ganolfan, Justin Williams ei fod yn deimlad arbennig i holl weithwyr y ganolfan.
"Dydych chi ddim yn disgwyl ennill achos bod o mor anodd, mae'n sioc fawr," meddai.
"Mae o’n deimlad mor dda, achos mae o’n gymaint o glod i’r tîm a gwaith y tîm, felly teimlad arbennig iawn.
"O’n na bump ohonom ni fel tîm yno ar y noson, ac oeddan ni gyd yn gyrru llunia a negeseuon i bawb achos ‘da ni’n dîm o dros 100 ac yn deutha nhw beth sydd wedi digwydd.
"Cewch chi ddim ennill fel hyn a chwblhau safonau oni bai bod pawb yn y tîm wedi prynu mewn a mwynhau, trio eu gorau glas i hitio safonau uchel."
Dywedodd Prif Weithredwr Y Gymdeithas Ganolfan Arddio, Peter Burks bod Fron Goch wedi ennill y wobr am eu "hymroddiad arbennig i ddarparu'r gorau o fewn ein diwydiant.
"Ni allent fod yn fwy haeddiannol o'r wobr wych hon."
'Mesur safonnau'
Mae'r Gymdeithas Ganolfan Arddio yn penderfynu ar enillwyr eu gwobrau trwy ymweld â'r holl ganolfannau garddio.
Dywedodd Justin Williams eu bod yn treulio hanner diwrnod yn tynnu dros 200 o luniau a marcio pob adran o fewn y ganolfan arddio.
" ‘Dan ni ddim yn gwybod pa bryd ma' nhw’n dod ond ma' nhw yma am hannar diwrnod ac yn tynnu dros 200 o luniau...
" ‘Da ni o hyd yn trio gneud gwellianna ac yn gwella petha’ ‘ma.
"Ac mae hynny’n rhan o’r hyn ‘dan ni’n neud o ran cadw safonau a sut ‘dan ni’n ysbrydoli ein cwsmeriaid ni, y wybodaeth a’r gwasanaeth iddyn nhw ac mae’r gwaith hwnnw yn mynd ymlaen o ddydd i ddydd.
"Mae gynnon ni dîm sydd yn gweithio gyda’i gilydd mor dda ac yn mwynhau gweld cwsmeriaid yn cael eu plesio, a gweld y mwynhad maen nhw’n cael."
Ychwanegodd Mr Williams: "Clod i’r tîm ydi o, ac mae rhaid i ni ddiolch i’r cymuned a’n cwsmeriaid ni.
"Mae’r gefnogaeth dros y blynyddoedd ers i ni agor yn 1981 wedi bod yn wych a hoffwn i feddwl bod ni’n cefnogi’r gymuned lleol hefyd. Felly mae’r ddau yn gweithio efo’i gilydd yn grêt."