Newyddion S4C

Tywysoges Cymru wedi ei henwi fel noddwr hosbis plant Tŷ Hafan

30/01/2025
Kate Ty Hafan

Mae Tywysoges Cymru wedi’i henwi’n noddwr ar hosbis plant Tŷ Hafan wrth iddi gwrdd â phobl ifanc â chyflyrau sy’n byrhau eu bywydau.

Mae Kate wedi dilyn yn ôl traed y diweddar Diana, Tywysoges Cymru, a’r Brenin Charles, i ddod yn noddwr ar yr hosbis ym mhentref Sili ym Mro Morgannwg.

Fe wnaeth hi’r daith ddirybudd wrth iddi barhau i ddychwelyd yn raddol i'w dyletswyddau brenhinol ar ôl cwblhau triniaeth cemotherapi yr haf diwethaf. 

Fe gadarnhaodd y Dywysoges yn ddiweddar ei bod hi bellach yn glir o ganser.

Dywedodd Irfon Rees, prif weithredwr Tŷ Hafan: “Mae’n anrhydedd mawr i ni fod Tywysoges Cymru wedi dod yn noddwr Tŷ Hafan ac roedd yn bleser pur ei chroesawu i’n hosbis am y tro cyntaf heddiw.

“Fel ein noddwr, bydd Ei Huchelder Brenhinol yn ysbrydoliaeth i blant â chyflyrau sy’n byrhau bywyd a’u teuluoedd, ein staff a’n gwirfoddolwyr ymroddedig a phawb sy’n ein cefnogi mor hael.”

Sefydlwyd Tŷ Hafan ym 1999 gan Suzanne Goodall, ar ôl ymgyrch codi arian a barodd fwy na degawd, pan ddarganfu nad oedd unrhyw hosbis i blant yng Nghymru.

Roedd Diana yn noddwr yn ystod y cyfnod codi arian a chymerodd Charles y rôl gyntaf yn 2001.

Ychwanegodd Mr Rees: “Nid oes yr un rhiant byth yn dychmygu y bydd bywyd eu plentyn yn fyr.

“Yn anffodus, dyma’r realiti sy’n wynebu miloedd o deuluoedd yng Nghymru. Allwn ni ddim atal hyn rhag digwydd, ond gyda’n gilydd gallwn wneud yn siŵr nad oes neb yn byw bywyd byr eu plentyn ar eu pen eu hunain.”

Llun: X/Tŷ Hafan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.