Newyddion S4C

Cymru Premier JD: Ail yn erbyn y trydydd a brwydr ar waelod y gynghrair

Sgorio 01/02/2025
Hwlffordd v Penybont

Mae Pen-y-bont wedi baglu yn y ras am y bencampwriaeth ar ôl colli oddi cartref ym Met Caerdydd nos Wener diwethaf.

Bydd Y Seintiau Newydd yn gobeithio manteisio ar hynny ac agor bwlch ar y brig wrth iddyn nhw herio Met Caerdydd y penwythnos yma.

Bydd hi’n fwy o her na’r arfer i gyrraedd Ewrop eleni gan mae dim ond tri safle sydd ar gael yn hytrach na’r pedwar arferol, ac felly bydd y clwb sy’n gorffen yn 2il yn y tabl yn cystadlu’n y gemau ail gyfle yn hytrach na chamu’n syth i Ewrop.

Yn y Chwech Isaf mae’r Barri wedi torri saith pwynt yn glir yn y frwydr am y seithfed safle, ac mae’r Dreigiau yn chwarae gartref yn erbyn Y Fflint brynhawn Sadwrn.

Ar waelod y gynghrair mae Aberystwyth yn dechrau’r penwythnos mewn sefyllfa gofidus, wyth pwynt o dan eu gwrthwynebwyr Llansawel sydd yn y 10fed safle.

Y Chwech Uchaf

Pen-y-bont (2il) v Hwlffordd (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:15 (Yn fyw arlein)

Bydd Pen-y-bont yn hynod siomedig o fod wedi colli o 2-1 yn hwyr yn erbyn Met Caerdydd nos Wener diwethaf, yn enwedig gan iddyn nhw fynd ar y blaen yng Nghampws Cyncoed.

Y golled honno oedd dim ond yr eildro mewn blwyddyn i Ben-y-bont golli gêm gynghrair oddi cartref (colli 2 allan o 18 gêm gynghrair oddi cartref), gyda’r unig golled arall yn dod yn erbyn Y Seintiau Newydd ym mis Tachwedd (YSN 3-2 Pen).

O ran Hwlffordd, mae nhw ar rediad o bum gêm heb golli (ennill 4, cyfartal 1), gyda’u colled diwethaf yn dod oddi cartref yn erbyn Pen-y-bont ar ddechrau mis Rhagfyr (Pen 1-0 Hwl).

Byddai buddugoliaeth i Hwlffordd yn cau’r bwlch i bedwar pwynt rhyngddyn nhw â Phen-y-bont yn yr ail safle, a pe bae’r Seintiau Newydd yn cyflawni’r dwbl (UGC a Cwpan Cymru), yna fe fyddai’r tîm yn yr ail safle yn camu i Ewrop yn awtomatig.

Mae Pen-y-bont ar rediad o bum gêm heb golli yn erbyn Hwlffordd gan ennill pedair o rheiny o un gôl i ddim, gyda’r gêm arall yn gorffen yn ddi-sgôr, ac felly dyw’r Adar Gleision heb sgorio yn eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont.

Mae Pen-y-bont wedi ennill pob un o’u chwe gêm gynghrair gartref yn erbyn Hwlffordd ers eu dyrchafiad i’r Cymru Premier JD gan ildio dim ond tair gôl.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ͏✅➖✅✅❌

Hwlffordd: ✅✅✅➖✅

Y Seintiau Newydd (1af) v Met Caerdydd (4ydd) | Dydd Sadwrn – 14:30

Y Seintiau Newydd sydd ar frig y tabl gyda 10 gêm ar ôl i’w chwarae ond mae criw Craig Harrison wedi colli pum gêm gynghrair yn barod y tymor hwn, sef y nifer fwyaf iddyn nhw ei golli ers tymor 2019/20 pan orffennon nhw’n 2il y tu ôl i Gei Connah.

Er hynny, mae’n ymddangos bod y Seintiau wedi setlo ‘nôl i’w hen arferion ers i’w hymgyrch Ewropeaidd ddod i ben, a bellach mae cewri Croesoswallt ar rediad o bum buddugoliaeth yn olynol yn y gynghrair.

Roedd hi’n driphwynt da i Met Caerdydd y penwythnos diwethaf, wrth iddyn nhw gynnal eu record fel yr unig dîm o’r Cymru Premier JD sydd heb golli yn erbyn Pen-y-bont y tymor hwn (ennill 2, cyfartal 2).

Ond dyw record oddi cartref y myfyrwyr heb fod yn wych gan mae mis Medi oedd y tro diwethaf i dîm Ryan Jenkins ennill gêm gynghrair oddi cartref, ac hynny yn erbyn y tîm ar waelod y tabl, Aberystwyth.

Bydd criw Craig Harrison yn llawn hyder felly, yn enwedig gan i’r Seintiau ennill eu nawgêm ddiwethaf yn erbyn y myfyrwyr yn cynnwys buddugoliaethau swmpus o 8-0, 7-1, 6-2, 5-0, 5-1 a 4-0.

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ✅✅✅✅✅

Met Caerdydd: ͏ ✅❌➖❌✅

Y Chwech Isaf

Cei Connah (8fed) v Y Drenewydd (11eg) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae Cei Connah wedi colli pedair gêm gynghrair yn olynol am y tro cyntaf ers dros 11 mlynedd gan syrthio saith pwynt o dan Y Barri yn y ras am y 7fed safle.

Sgoriodd Cei Connah saith o goliau yn erbyn Y Fflint ar ddydd San Steffan, ond ers hynny dyw’r Nomadiaid m’ond wedi llwydo i rwydo dwy gôl mewn pedair gêm.

Dyw pethau ddim gwell yn Y Drenewydd gyda’r Robiniaid ar rediad trychinebus o 12 gêm heb fuddugoliaeth (cyfartal 2, colli 10) gan sgorio dim ond saith gôl yn eu 11 gêm ddiwethaf.

Bydd Callum McKenzie yn falch o fod wedi sichrau ei bwynt cyntaf fel rheolwr Y Drenewydd gyda gêm gyfartal yn erbyn Llansawel y penwythnos diwethaf ar ôl saithcolled yn olynol, ond bydd yn dal i ysu i gael blasu buddugoliaeth am y tro cyntaf.

Hydref 2021 oedd y tro diwethaf i’r Drenewydd guro Cei Connah, a bellach mae’r Nomadiaid ar rediad o 11 gêm heb golli yn erbyn y Robiniaid (ennill 7, cyfartal 4)

Record cynghrair diweddar:

Cei Connah: ͏✅❌❌❌❌

Y Drenewydd: ͏❌❌❌❌➖

Llansawel (10fed) v Aberystwyth (12fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Aberystwyth oedd ar waelod y domen ar ddiwedd rhan gynta’r tymor, ac ers ffurfio’r fformat 12-tîm yn 2010 does dim un tîm erioed wedi llwyddo i ddringo allan o’r ddau isaf ar ôl dechrau ail ran y tymor ar waelod y tabl.

Ac ar ôl colli’n erbyn Y Barri nos Wener diwethaf mae Aberystwyth bellach wyth pwynt o dan diogelwch y 10fed safle, ac felly bydd rhaid curo Llansawel ddydd Sadwrn os am obaith gwirioneddol o ddianc rhag y cwymp.

Dyw Aberystwyth heb sgorio mewn wyth o’u naw gêm gynghrair ddiwethaf oddi cartref, gan ennill yr unig gêm arall o 4-1 yng Nghaernarfon.

Mae’r Gwyrdd a’r Duon wedi colli 11 o’u 12 gêm ddiwethaf oddi cartref yn y Cymru Premier JD ac mae tasg anferthol o flaen Antonio Corbisiero i geisio achub Aber rhag syrthio o’r uwch gynghrair am y tro cyntaf yn eu hanes.

Mae canlyniadau cartref Llansawel wedi bod yn gryf yn ddiweddar, yn ennill tair allan o bump (cyfartal 1, colli 1) yn cynnwys triphwynt annisgwyl yn erbyn Y Seintiau Newydd.

Llansawel enillodd y ddwy ornest rhwng y ddau dîm yma yn rhan gynta’r tymor gan sgorio cyfanswm o 10 gôl yn ystod y gemau rheiny (Llan 4-0 Aber, Aber 1-6 Llan).

Record cynghrair diweddar:

Llansawel: ✅➖❌✅➖

Aberystwyth: ͏✅➖❌❌❌

Y Barri (7fed) v Y Fflint (9fed) | Dydd Sadwrn – 14:30

Mae’r Barri’n dechrau’r penwythnos saith pwynt yn glir yn y ras am y seithfed safle, a bydd y Dreigiau’n benderfynol o hawlio lle’n y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.

Roedd Y Barri wedi mynd ar rediad o bum gêm heb ennill cyn curo Aberystwyth y penwythnos diwethaf, a bydd Steve Jenkins yn gobeithio bydd y fuddugoliaeth yn ail-danio tymor carfan Parc Jenner.

Llwyddodd Y Fflint i drechu eu cymdogion Cei Connah o 2-1 brynhawn Sadwrn gan hawlio eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn y Nomadiaid ers Awst 2001.

Ond does gan y Sidanwyr ddim record gryf oddi cartref gan i fechgyn Lee Fowler golli eu chwe gornest ddiwethaf oddi cartref gan ildio 24 o goliau (4 gôl y gêm ar gyfartaledd).

Mae’r Barri wedi curo’r Fflint ddwywaith yn rhan gynta’r tymor a bydd y blaenwr Ollie Hulbert yn anelu i ychwanegu at ei naw gôl y tymor hwn i geisio dringo i frig rhestr y prif sgorwyr.

Record cynghrair diweddar:

Y Barri: ❌❌➖➖✅

Y Fflint: ͏❌❌✅❌✅

Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.