
'Anhygoel': Bywyd newydd i hen grys rygbi cyn faswr Cymru
Mae crys rygbi Cymru oedd yn berchen i’r maswr olaf erioed i chwarae gêm wrth wisgo rhif 6 ar ei gefn wedi’i adfer ar ôl damwain yn y golch.
Bryan Richards o Sgiwen yng Nghastell-nedd Port Talbot oedd y person diwethaf erioed yn nhîm rygbi Cymru i wisgo’r crys rhif 6 wrth chwarae yn safle’r maswr.
Mae safle’r maswr bellach yn mynd llaw yn law â chrys rhif 10, ond yn nyddiau cynnar y gêm roedd hanes y safle yng Nghymru ychydig yn wahanol.
Rhif 6 oedd yn gyfystyr â’r safle, a Bryan oedd chwaraewr olaf Cymru i gynrychioli ei wlad yn y crys hwnnw, a hynny yn ystod ei unig gêm yn y crys coch, yn erbyn Ffrainc ym Mharc yr Arfau ar 26 Mawrth 1960.
Bu farw Bryan Richards cyn ‘Dolig yn 2023 ac fe aeth ei grys annwyl at ei fab, Lloyd Richards.
Yn y gobaith o gymryd gofal o’r crys fe benderfynodd ei wraig, Karen, ei olchi.
Er gwaethaf ei hymdrechion, roedd y crys wedi’i ddifetha a’r lliw coch llachar wedi diliwio'r colur gwyn.

'Anhygoel'
Fe aeth Lloyd a Karen at arbenigwyr rhaglen BBC, The Repair Shop yn y gobaith o adfer y crys.
“Mae cywilydd arna’i i ddweud y lleiaf,” meddai Karen. “Dwi ‘di teimlo’n euog ers y digwyddiad achos fe wnaeth [Bryan] gweithio’n rili galed am hwnna.”
Ond yn ffodus i’r pâr, fe lwyddodd yr arbenigwr yn y byd tecstilau, Rebecca Bissonnet, adnewyddu’r crys “anhygoel.”
Dywedodd Lloyd: “Chi’n gwybod y lliw coch o’n i’n sôn amdano? Dyna’r goch sy’n cynrychioli Cymru.
“Mae’r tair pluen mor amlwg bellach. Mae’n anhygoel.”
“Mae wedi lleddfu fy euogrwydd,” ychwanegodd Karen.
“Gan ein bod ni wedi colli [Bryan] mae hyn yn teimlo fel ein bod ni wedi cael rhan fach ohono yn ôl.”
Lluniau: BBC/Undeb Rygbi Cymru