Newyddion S4C

'Oedi annerbyniol' yng nghorffdai'r gogledd yn achosi 'poen' i deuluoedd

30/01/2025
Janet Finch Saunders / Ysbyty Glan Clwyd

Mae oedi “annerbyniol” mewn corffdai (morgues) yng ngogledd Cymru yn achosi “poen” i deuluoedd, yn ôl un Aelod o’r Senedd.

Mae Janet Finch-Saunders, yr aelod Ceidwadol sy’n cynrychioli Aberconwy, wedi dweud ei fod yn cymryd dros fis mewn rhai achosion i gyrff y meirw gael eu rhyddhau i ymgymerwyr.

Y rheswm am hynny meddai, yw bod corffdai yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd yn llawn, yn ôl rhai pobl sydd yn gweithio yn y maes angladdau.

Dywedodd Ms Finch-Saunders ei bod wedi codi pryderon ynglŷn â’r oedi gydag aelodau gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr “ers rhai misoedd”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro o'r blaen ynglŷn ag oedi ar ôl mabwysiadu system newydd o roi tystysgrifau marwolaeth.

Mae'r broses newydd, sydd wedi bod yn weithredol ers Medi'r llynedd, yn golygu nad yw meddygon teulu yn gallu rhyddhau tystysgrifau yn annibynnol mwyach.

Yn hytrach, mae tystysgrifau i farwolaethau nad yw'n destun ymchwiliad gan grwner, yn cael eu rhoi gan feddyg cyn cael eu cymeradwyo gan archwilwyr meddygol annibynnol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dweud er ei fod yn "fater cenedlaethol", mae'n "adolygu ei brosesau i sicrhau bod popeth yn ei le ac yn symud mor gyflym â phosibl."

'Creisis'

Dywedodd Janet Finch-Saunders AS: “Mae hwn yn sgandal ac yn greisis sydd ddim yn cael ei ymdrin âg o  mewn modd proffesiynol.

“Ers misoedd, mae’r bwrdd iechyd wedi bod yn ymwybodol ei fod yn cymryd dros fis i ryddhau corff mewn rhai achosion – ond does dim newid wedi bod yn y sefyllfa.

“Mae’n anodd dychmygu’r poen mae hyn yn achosi i deuluoedd a ffrindiau sydd ddim yn cael gweld corff eu perthynas neu gyfaill.

“Dw i ar ddeall mai’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol sydd yn achosi’r oedi.

"Ond y peth pwysicaf i’w gofio yw bod yna methiant wedi bod gan y bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru i weithio’n effeithiol i ddod a’r creisis anfoesol yma i ben.

“Mae’r sefyllfa bresennol yn annerbyniol, ac mae’n annerbyniol ei fod wedi parhau am gyhyd. Mae angen mynd i afael â hyn ar unwaith.”

'Mater cenedlaethol'

Dywedodd Dr Sree Andole, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Dylai’r broses o dderbyn tystysgrif marwolaeth ar adeg sy’n peri gofid i deuluoedd fod mor syml â phosibl.

“Fel y trafodwyd gyda Mrs Finch-Saunders yr wythnos hon, er bod hwn yn fater cenedlaethol gydag ymestyn y broses archwilio meddygol, mae’r bwrdd iechyd wedi adolygu ei brosesau i sicrhau bod popeth yn ei le ac yn symud mor gyflym â phosibl.

“Mae ein Cyfarwyddwyr Meddygol Cyswllt ar gyfer Marwolaethau hefyd wedi gofyn am gyfarfod ag Archwiliwr Meddygol Arweiniol Cymru, a phartïon perthnasol eraill i archwilio’r mater hwn ymhellach ac i ystyried pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd i fireinio a symleiddio’r prosesau hyn.”

'Mwy o alw'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Fel arfer mae mwy o alw ar wasanaethau corffdy yn ystod y gaeaf. 

"Mae hyn wedi cyd-daro â chyflwyno rheoliadau newydd gan Lywodraeth y DU ar gyfer y broses ardystio marwolaeth, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gamau ychwanegol gael eu cymryd cyn y gellir rhyddhau cyrff.

“Mae’r trefniadau newydd hyn yn dal i ymsefydlu ac rydym yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd a’r Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol i leihau oedi cyn rhyddhau anwyliaid i’w teuluoedd fel mater o frys.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.