'Allan o reolaeth': Dros 2,000 o droseddau mewn siopau bob diwrnod
Mae nifer yr achosion o droseddau mewn siopau wedi codi i dros 2,000 y diwrnod, yn ôl ffigyrau newydd.
Ers 2020 mae nifer yr achosion dyddiol sydd yn cynnwys camdriniaeth rywiol a hiliol, ymosod yn gorfforol a bygwth gydag arfau wedi treblu.
Disgrifiodd prif weithredwr Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC) Helen Dickinson y cynnydd fel un sydd "allan o reolaeth", gan ddweud na ddylai gweithwyr orfod "ofni mynd i'w gwaith."
Dros y flwyddyn ddiwethaf cafodd 70 achos oedd yn cynnwys arf eu cofnodi pob dydd.
Roedd dwyn o siopau ar ei lefel uchaf hefyd, gyda dros 20 miliwn achos y llynedd, wnaeth gostio busnesau £2.2 biliwn.
Fe wnaeth y BRC ganfod fod gangiau yn targedu siopau ar draws y DU ac yn dwyn gwerth miloedd o nwyddau.
"Pob dydd mae hyn yn parhau, ac mae troseddwyr yn fwy beiddgar ac ymosodol," meddai Helen Dickinson.
"Mae busnesau yn gwario mwy ar bethau fel camerâu cylch cyfyng a chyfarpar diogelwch nag erioed, ond dydyn nhw ddim yn gallu atal trosedd ar eu pen eu hunain.
"Rydym ni angen i'r heddlu ymateb a chofnodi pob un digwyddiad mewn modd cywir."
'Ofni mynd i'r gwaith'
Dywedodd hanner y gweithwyr a gafodd eu holi yn Arolwg Troseddau Blynyddol o BRC eu bod yn poeni am eu diogelwch yn eu gwaith.
Yn ôl Chris Brook-Carter, prif weithredwr yr elusen Retail Trust, mae nifer o weithwyr wedi cysylltu gyda llinell cymorth yr elusen yn adrodd digwyddiadau gan gynnwys ymosodiadau corfforol.
"Mae bron i hanner yn ofni am eu diogelwch ac mae dwy ran o dair yn pryderu am fynd i'w gwaith oherwydd y lefel annerbyniol yma o drosedd mewn siopau.
"Mae nifer wedi dweud eu bod nhw ar y dibyn yn eu gwaith.
"Yr hyn sydd angen yw mesurau cryfach er mwyn atal y digwyddiadau troseddol hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf."