Newyddion S4C

O Ganada i Gymru: Siaradwr Cymraeg newydd yn sefydlu gwasanaeth i helpu eraill

30/01/2025

O Ganada i Gymru: Siaradwr Cymraeg newydd yn sefydlu gwasanaeth i helpu eraill

Mae siaradwr Cymraeg newydd sy’n wreiddiol o Ganada bellach yn benderfynol o helpu pobl eraill ledled y byd i ddysgu’r iaith hefyd. 

Yn wreiddiol o Toronto, mae Heather Broster wedi byw yn Nhywyn yng Ngwynedd ers bron i ddegawd. 

Wedi iddi ddechrau dysgu Cymraeg tua wyth mlynedd yn ôl, fe benderfynodd Ms Broster sefydlu gwefan o’r enw We Learn Welsh er mwyn cadw cofnod o’i thaith iaith. 

Ond gyda chefnogaeth criw o Gymry Cymraeg, mae’r wefan bellach yn hafan i ddysgwyr eraill sydd eisiau cael gafael ar adnoddau a chymorth. 

“Dwi’n meddwl bod dysgwyr eraill yn gallu cydymdeimlo oherwydd da ni yn yr un sefyllfa – ond gyda help y Cymry Cymraeg alla’i bod yn siŵr bod popeth yn gywir ar y wefan,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C.

Gyda dros 20,000 o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol, mae gan Ms Broster cynlluniau i lansio cylchlythyr ‘Gair Cymraeg y Dydd’ er mwyn helpu hyd yn oed mwy o bobl y mis nesaf. 

“Gan fod ‘na ddim gymaint o adnoddau am y Gymraeg i gymharu ag ieithoedd eraill fel Ffrangeg, Eidaleg, ac ati, oni’n meddwl bod e’n syniad da i ‘neud rhywbeth ar gyfer yr iaith Gymraeg,” esboniodd.

Image
Heather a'i theulu
Heather Broster a'i theulu ger Traeth Aberdyfi, Gwynedd

Atgofion melus

Mae Ms Broster wedi byw yng Nghymru ers 2017 – ond mae ganddi hanes hirach byth gyda’r wlad sy’n dyddio yn ôl i’w phlentyndod, meddai. 

“Roedd gan fy nain tŷ gwyliau yn Aberdyfi amser maith yn ôl, felly roedd fy nhad yn mynd yno ar ei wyliau pan oedd yn ifanc. 

“Felly ar ôl iddo symud i Ganada i briodi fy mam, o’n i’n arfer dod i Gymru ar ein gwyliau hefyd, felly mae gen i lawer o gofion am dod yma. 

“Tra bod fy ffrindiau i gyd yn mynd i Florida ar eu gwyliau o’n i wastad yn dod yma!”

Image
Heather yn fetch

'Angerddol'

Pan symudodd ei rhieni i Gymru 15 mlynedd yn ôl, fe symudodd Ms Broster i’r Eidal gan gwrdd â’i gwr a threulio saith mlynedd yno yn dysgu’r iaith. 

Mae wedi bod yn cynnal gwasanaeth tebyg i ddysgwyr Eidaleg, Daily Italian Words, am bum mlynedd, a hynny wedi bod yn “llwyddiannus iawn.” 

“Mae gynnon ni 48,000 o danysgrifwyr a mwy ‘na 300,000 o bobl sy’n ein dilyn ni ar Facebook.

“Dwi’n angerddol dros ieithoedd jest yn gyffredinol, dwi’n caru dysgu ieithoedd. Pan o’n i yn y brifysgol nes i ddysgu Siapaneg a bues i yna am dwy flynedd yn y brifysgol. 

“Wedyn, es i i’r Eidal a nesh i dysgu Eidaleg hefyd felly dwi jyst yn caru dysgu ieithoedd lle dwi’n byw. 

“Dwi’n meddwl bod o’n respectful.” 

Bydd cylchlythyr Gair Cymraeg y Dydd bellach yn lansio ar 10 Chwefror a bydd yn cynnwys gair gwahanol bob dydd, rhwng dydd Llun a dydd Gwener. 

Fe fydd yn cynnwys brawddegau enghreifftiol gyda sain, etymoleg a geiriau cysylltiedig i ddysgwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.