Heathrow: Rachel Reeves yn cefnogi cynlluniau i adeiladu trydedd llain lanio
Heathrow: Rachel Reeves yn cefnogi cynlluniau i adeiladu trydedd llain lanio
Mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi cefnogi'r syniad o drydedd llain lanio ym maes awyr Heathrow.
Dywedodd y Canghellor y byddai'r datblygiad yn galluogi i awyrennau lanio yn Heathrow yn hytrach na “hedfan o gwmpas Llundain”.
Mae’r datblygiadau yn y diwydiant hedfan yn mynd “law yn llaw” â rhoi hwb i’r economi, meddai, gan ychwanegu bod “llawer wedi newid yn y diwydiant hedfan…mae tanwydd hedfan cynaliadwy yn newid allyriadau carbon wrth hedfan.”
Dywedodd Ms Reeves bod y Llywodraeth eisiau i’r cynigion ar gyfer y drydedd llain lanio gael eu cyflwyno erbyn yr haf.
Byddent wedyn yn wynebu asesiad llawn trwy ddatganiad polisi cenedlaethol y maes awyr i sicrhau ei fod “yn cael ei gyflawni yn unol â’n hamcanion cyfreithiol, amgylcheddol a hinsawdd”.
Dywedodd maer Llundain, Sadiq Khan, ei fod yn dal i wrthwynebu ehangu’r maes awyr, ac wedi dweud bod “dim newid” i’w farn.
Yn ei araith heddiw, rhoddodd Ms Reeves gefnogaeth i nifer o gynlluniau mawr eraill ledled Lloegr, gan gynnwys cynllun clwb pel-droed Manchester United i adeiladu stadiwm newydd ger Old Trafford. Y clwb ei hun fydd yn talu am y stadiwm, ond mae'n bosib bydd cynlluniau eraill yn yr un ardal yn cael cymorth ariannol gan y Llywodraeth.