Newyddion S4C

Llywodraeth Cymru'n cyflwyno Parth Atal Ffliw Adar i Gymru gyfan

Ffliw adar

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Parth Atal Ffliw Adar i Gymru gyfan, fydd yn cynnwys rheolau llym o ddydd Iau ymlaen.

Er nad oes unrhyw achos o ffliw adar mewn dofednod neu adar eraill wedi ei gadarnhau yng Nghymru hyd yma, mae nifer yr achosion mewn heidiau dofednod yn parhau i gynyddu ledled Prydain.

O ganlyniad mae risg uwch o drosglwyddo'r haint o adar gwyllt i adar sydd yn cael eu cadw medd y llywodraeth.

Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol.

Mae'r cam yma yng Nghymru'n cyd-fynd â'r Parthau Atal Ffliw Adar cenedlaethol a gyflwynwyd yn Lloegr a'r Alban ar 25 Ionawr.

Dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru fod y datganiad yma "yn anorfod", o ystyried bod achosion diweddar yn agos i Gymru.

"Mae ffliw adar yn gallu rhoi straen ariannol ac emosiynol mawr ar ffermwyr, ac mae'n hanfodol bod ffermwyr dofednod yn wyliadwrus er mwyn gwarchod eu heidiau rhag yr haint," meddai Eelin Jenkins o'r undeb.

Bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, bethbynnag yw maint yr haid neu sut mae'r adar yn cael eu cadw, gymryd "camau priodol ac ymarferol" meddai Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig.

Mae'r camau hyn yn cynnwys:

• Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt
• Bwydo a dyfrio heidiau mewn ardaloedd caeedig rhag denu adar gwyllt;
• Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau lle cedwir adar;
• Glanhau a diheintio esgidiau, defnyddio dipiau traed cyn mynd i mewn i ardaloedd caeedig dofednod, a chadw ardaloedd lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus;
• Os yw'r haint wedi cyrraedd eisoes, ei leihau drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog;
• Cadw hwyaid a gwyddau domestig ar wahân i ddofednod eraill;
• Ni ddylid symud adar hela gwyllt sy'n cael eu dal yn ystod y tymor agored am o leiaf 21 diwrnod
• Sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw yn unol â'r amodau yn y datganiad a chwblhau rhestr wirio bioddiogelwch gorfodol o fewn saith diwrnod. 

Wrth gyhoeddi'r parth, dywedodd Huw Irranca-Davies: "Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i ddiogelu iechyd a lles ein haid genedlaethol yng Nghymru ac atal clefydau rhag cael eu cyflwyno a'u lledaenu. 

"Bydd angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar. 

"Rhaid i geidwad hefyd barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd. 

"Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy ffonio 0300 303 8268 ar unwaith os oes ganddynt unrhyw amheuon."


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.