Gwahardd cŵn XL Bully yn rhoi 'baich anferthol ar blismona'
Mae gwahardd cŵn XL Bully yn rhoi “baich anferthol ar blismona” yn ôl penaethiaid yr heddlu.
Fe allai costau milfeddyg a chenelu cŵn gyrraedd miliynau o bunnoedd, yn ôl Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC). Mae'r corff yn dweud bod cenelu cŵn yn agos at “gyrraedd capasiti” a chostau yn “cynyddu’n ddyddiol”.
Ers mis Chwefror y llynedd mae wedi bod yn drosedd bod yn berchen ar gi XL Bully yng Nghymru a Lloegr heb dystysgrif eithrio. Mae'n golygu y bydd anifeiliaid heb eu cofrestru yn cael eu cymryd a pherchnogion o bosibl yn cael dirwy a'u herlyn.
Yn ôl y corff plismona, mae biliau milfeddygol a chost cenelu bridiau cŵn gwaharddedig wedi codi o £4 miliwn yn 2018 i fwy na £11 miliwn rhwng Chwefror a Medi 2024. Gall gostio tua £1,000 y mis i gadw XL Bully mewn cenelau medden nhw.
Maent yn disgwyl i’r ffigwr “godi cymaint â £25 miliwn” ar gyfer y cyfnod rhwng Chwefror 2024 ac Ebrill 2025.
Yn ogystal â'r XL Bully mae bridiau eraill o gŵn sydd wedi’u gwahardd yn cynnwys y pitbull terrier, Tosa o Japan, dogo Argentino a fila Brasileiro.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Hobrough, arweinydd yr NPCC ar gyfer cŵn peryglus a Phrif Weithredwr Heddlu Gwent, fod y gwaharddiad yn rhoi “baich enfawr ar blismona”.
Ychwanegodd: “Rydym yn wynebu nifer o heriau o ran capasiti cenelau, adnoddau a chostau cynyddol, a hyd heddiw nid ydym wedi derbyn unrhyw arian ychwanegol i gyfrif am hyn.
“Mae yna angen dybryd i’r Llywodraeth ein cefnogi ni i ymdopi â’r galw enfawr mae’r gwaharddiad wedi’i roi ar ein hadnoddau sydd o dan bwysau o hyd."