'Fandaliaeth academaidd': Undeb yn bygwth streicio
Mae Undeb y Prifysgolion a Cholegau (UCU) wedi dweud na allan nhw “ddiystyru gweithredu diwydiannol” yn sgil cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd i gael gwared â 400 o swyddi llawn amser yn y sefydliad.
Yn ôl Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Jo Grady, mae’r toriadau yn “fandaliaeth academaidd”.
Daw'r cyhoeddiad yn ystod cyfnod o heriau ac ansicrwydd ariannol i brifysgolion ar hyd a lled Prydain, gyda Chaerdydd yn wynebu diffyg ariannol o £30m y llynedd. Mae Prifysgol Durham hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau i leihau staff yn ddiweddar.
Mae Ms Grady yn dweud y byddai lleihau’r gweithlu yn y prifysgolion yma yn cael effaith ar ansawdd y dysgu a’r ymchwil.
“Dyw ein haelodau ddim yn fodlon sefyll o’r neilltu a chaniatau i reolwyr prifysgolion weithredu fandaliaeth academaidd ar y fath raddfa,” meddai.
“Os na fydd prifysgolion yn fodlon camu yn ôl o’r ymyl a chydweithio gyda ni i gadw’r ddarpariaeth, mi ydyn ni yn fodlon cynnal pleidlais ar gyfer streicio.
“Yn anffodus dyw gweithredu diwydiannol ddim yn rhywbeth y gallwn ni ddiystyru.”
Mae is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner, yn annog staff – gan gynnwys undebau llafur fel UCU – i ymateb i'r ymgynghoriad.
“Rwyf am bwysleisio mai cynigion yw’r rhain ac y bydd ein cymuned, yn fewnol ac yn allanol, yn cael llywio ein cynlluniau terfynol drwy ymgynghoriad ffurfiol,” meddai.
“Bydd maint yr her yn parhau, ond bydd y ffordd yr awn i’r afael â hi yn sicr yn cael ei mireinio a’i datblygu dros y 90 diwrnod nesaf.”
'Lot o bryder'
Ar rhaglen Newyddion S4C nos Fawrth, dywedodd Deio Owen, llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yng Nghymru bod angen “datrysiadau ar frys” i’r sefyllfa.
Dywedodd bod ‘na bellach “lot o bryder” am ddyfodol addysg myfyrwyr ledled y wlad a bod angen “gwybodaeth glir” ynglŷn ag unrhyw newidiadau pellach.
“Da ni’n gweld newidiadau ar draws prifysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd; Llanbed wsnos dwetha a Caerdydd wsnos yma. Mae angen sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r newidiadau ag staff hefyd,” meddai.
Mae Mr Owen hefyd yn honni bod y toriadau yn ganlyniad i ddiffyg ariannu gan Lywodraeth Cymru.
“Yn amlwg mewn sefyllfaoedd fel ‘ma mae toriadau yn un o’r opsiynau,” meddai.
“Ond be da ni’n weld ydi mai hyn yn symptom o ddiffyg ariannu clir gan y llywodraeth dros y blynyddoedd erbyn hyn a mae angen i’r llywodraeth dod i ddatrysiad reit fuan.”
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn deall y pryder difrifol y bydd cyhoeddiad Prifysgol Caerdydd yn achosi i bobl sy'n cael eu heffeithio.
“Mae prifysgolion ledled y DU yn wynebu cyfnod ariannol heriol oherwydd ystod o ffactorau ac rydym yn disgwyl i bob sefydliad weithio gydag undebau llafur, staff a myfyrwyr ar unrhyw gynigion.”